Mae ein cynllun Aelodau Masnachol yn cynnig cyfleoedd gwych i chi roi hysbysrwydd i’ch cynnyrch ac i’ch neges gael ei chlywed gan y mudiad Gofal a Thrwsio a thu hwnt.

Bob blwyddyn, mae staff Gofal a Thrwsio yn cysylltu gyda dros 40,000 o bobl hŷn ym mhob rhan o Gymru. Os oes gennych gynnyrch neu neges o fudd i bobl hŷn yng Nghymru, rydym yn y sefyllfa berffaith i’ch helpu i’w rhannu.

Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd rhwydweithio cenedlaethol drwy gydol y flwyddyn ar gyfer ein Gweithwyr Achos, Swyddogion Technegol a thimau Arweinyddiaeth. Gallai hyrwyddo eich busnes a’ch cynnyrch mewn cyfarfod rhwydweithio eich helpu i adeiladu perthynas gref gyda chwsmeriaid newydd a phresennol.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Aelod Masnachol?

Lawrlwythwch ein taflen i ganfod sut y gall dod yn Aelod Masnachol o Care & Repair Cymru fod o fudd i’ch sefydliad.

Darllenwch nawr

Ein Aelodau Masnachol

Triton

Mae Triton yn falch i gael ei adnabod fel ‘Cwmni Cawodydd y DU’, ar ôl bod yn cynhyrchu cynlluniau cawod arloesol wedi eu peiriannu’ arbenigol ers 1975. Bu Triton yn flaenllaw wrth ddarparu cawodydd effeithiol o ran ynni i gwsmeriaid am dros 45 mlynedd. Mae Triton ar y trywydd i ennill statws SBT Carbon Sero Net erbyn 2035. Gyda chostau byw cynyddol a mwy o alw am adnoddau naturiol, mae pob diferyn yn wirioneddol wneud gwahaniaeth wrth ddewis cyfarpar gwresogi dŵr effeithiol o ran ynni ar gyfer y cartref.

Trusted Assessing and Care Training (TACT)

Mae TACT yn bractis therapi galwedigaethol sy’n arbenigo mewn hyfforddiant a rhaglenni i gefnogi asesu ar gyfer addasiadau cartref. Fel darparydd gydag achrediad ar gyfer hyfforddiant Asesydd Dibynadwy, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn ystod o fformatau yn cynnwys y cymwysterau cenedlaethol ar lefelau Asesydd Dibynadwy ar lefelau tri a phedwar.

QUALIA LAW CIC

Qualia Law CIC provides non-profit Court of Protection Deputyship for vulerable and incapacitated people. Qualia Law acts as Deputy for individuals who have impaired mental capacity and who are no longer able to manage their property or financial affairs. We have a team of expert Solicitors appointed by the court to safeguard and act in the best interests of our clients, not to generate profit.

Solon Security

Caiff Solon Security ei gydnabod fel un o brif gyflenwyr cynnyrch diogelwch cymunedol Prydain. Ar ôl gweithio gydag ystod o gynghorau, cymdeithasau tai a darparwyr gofal yn ein hanes 25-mlynedd, defnyddiwn y cysylltiad hwn gyda chwsmeriaid i ddarparu datrysiadau sy’n arwain y farchnad. Mae ein hystod o ofal a alluogir gan dechnoleg yn helpu i wneud gwahaniaeth i filoedd o breswylwyr ar draws Prydain. Rydym yn falch i gynnig y dewis ehangaf o seffau allwedd ym Mhrydain, gyda datrysiadau i weddu pob angen penodol, amgylchedd a chyllideb.

Altro

Pan ddaw i dai cymdeithasol ac addasu cartrefi, mae’r ffordd y mae cartref yn edrych yr un mor bwysig â sut mae’n gweithredu. Mae angen i ardaloedd byw fod â steil, mae angen i ardaloedd cymunol fod yn groesawgar, sensitif i sŵn a rhwydd eu glanhau ac mae angen i geginau ac ystafelloedd ymolchi gydymffurfio gyda’r safonau uchaf o ran diogelwch a hylendid. Bydd dewis Altro o loriau a waliau cyfoes gyda lliwiau traddodiadol, gwahanol weadau a gorffenion – yn cynnwys pren – yn rhoi popeth rydych ei angen i gwblhau adeilad newydd neu wella llety a chyfleusterau presennol.

AKW

Mae AKW yn arwain y farchnad ym Mhrydain mewn datrysiadau cawod, byw bob dydd a cheginau ar gyfer pobl gyda llai o allu symud. Mae dewis, prisiau cystadleuol a gwasanaeth o’r radd flaenaf i gwsmeriaid yn gwneud AKW y dewis cyntaf i gleientiaid ar draws Prydain a thramor. Gweithiwn yn achos gyda therapyddion galwedigaethol a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd pan gynlluniwn ein cynnyrch. Rydym yn angerddol am alluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain a chadw eu hannibyniaeth. Ynghyd â gwasanaethau gyda’r gorau yn y byd i gwsmeriaid, rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth dylunio/syrfëwr cynhwysfawr a gwasanaeth ôl-ofal.

The Key Safe Company

Rydym wedi darparu cynnyrch a gwasanaethau o’r safon uchaf oll ers 1995. Caiff ein hangerdd ei ddangos dan ein hardystiad ISO9001 ac aelodaeth o gynllun ‘Secured by Design’ Heddlu y Deyrnas Unedig. Gan weithio mewn partneriaeth gyda phrif arbenigwyr y diwydiant, tebyg i TSA, sefydliadau dim er elw ac awdurdodau lleol, fe wnaethom ddatblygu’r Supra C500 KeySafe™ - y seff allweddi wreiddiol a ffafriwyd gan heddlu’r DU a gafodd brofion ymosod annibynnol a thrwyadl i sicrhau ei fod “mor ddiogel â’ch drws blaen”. Rydym wedi darparu dros 12.5 miliwn o seffau allwedd mewn 25 mlynedd o fasnachu.

UDoor

Mae UDOOR yn gosod drysau yn uniongyrchol ar faddonau sydd eisoes yn eu lle, gan roi mynediad cam-isel tra’n dal dŵr yn llwyr. Gellir gosod ein drysau a fframiau baddon ar bron unrhyw faddon, hyd yn oed rannau crwm. Caiff y gwaith gosod ei wneud mewn un diwrnod gan ein peirianwyr a hyfforddwyd yn broffesiynol. Gweithiwn gydag unigolion sydd â heriau symudedd, cynghorau, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i roi datrysiad ymarferol sy’n cefnogi annibyniaeth ac yn gwneud ymolchi mewn baddon yn fwy diogel a chysurus.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.