Mae’r gaeaf ar ein gwarthaf, ac mae hyn yn golygu mwy o risgiau i’ch cartref

Mae gaeaf ym Mhrydain yn cael effaith niweidiol ar gartrefi, gan achosi pibelli dŵr i ehangu a byrstio gan achosi difrod. Dywedwyd mai’r math mwyaf cyffredin o gais yswiriant gan ddeiliaid tai yn ystod cyfnod y gaeaf yw dŵr yn dianc, oherwydd fod pibelli dŵr wedi byrstio.

Sut i ddiogelu eich cartref yn ystod y gaeaf

Gwiriwch bibelli o amgylch eich cartref ddiwedd yr hydref rhag ofn eu bod wedi chwyddo neu eu gorchuddio gan farrug. Nid yw bob amser yn rhwydd gweld fod pibell wedi rhewi. Gallai troi eich prif gyflenwad dŵr i ffwrdd cyn gadael y tŷ atal difrod ehangach oherwydd fod pibell yn byrstio.

Caiff llif dŵr ei reoli gan y brif falf dŵr yn y cartref ac os bydd argyfwng, dylai pob oedolyn priodol sy’n byw yn y tŷ fedru canfod a chael mynediad rhwydd i’r brif falf dŵr, neu fel y caiff hefyd ei alw, y stopfalf,

Stopfalfiau a’ch cartref

Yn draddodiadol stopfalfiau pres fydd y falf yn rheoli prif gyflenwad dŵr cartrefi, fodd bynnag nid nid ydynt bob amser yn y lleoedd rhwyddaf eu cyrraedd a gallant fod yn anodd eu troi i ffwrdd mewn argyfwng oherwydd eu bod yn agored i ddifrod gan galchgen.

Gall hyn fod yn broblem enfawr i breswylwyr hŷn neu rai gyda galluoedd amrywiol yn arbennig yn ystod y gaeaf, pan mae pibelli yn fwy tebygol o fyrstio.

Fodd bynnag mae bellach ddewis modern yn lle stopfalfiau pres, sef stopfalf Surestop a gynhyrchir ym Mhrydain. Wedi’u gosod mewn lleoedd rhwydd eu cyrraedd, mae gan stopfalf Surestop fotwm cloi, y gellir ei bwyso yn syml ac yn rhwydd i atal y cyflenwad dŵr yn syth.

Nid oes unrhyw gysylltiadau trydan na batris, mae’n gweithio’n llwyr ar bwysedd dŵr ac ni fydd yn methu neu galchgen yn effeithio arno – yn wahanol i bres. Mae stopfalf Surestop hefyd ar gael gyda fersiwn sy’n cynnwys switsh cloi o bell, y gellid ei roi mewn cwpwrdd cegin neu ar yr wyneb ar gyfer mynediad hyd yn oed rwyddach.

Beth i’w wneud os yw’ch pibell yn byrstio:

1.Troi eich prif bibell ddŵr i ffwrdd ar unwaith yn y stopfalf. Os gosodwyd stopfalf Surestop, y cyfan sy’n rhaid ei wneud yw pwyso’r botwm cloi ar y stopfalf neu os gosodwyd fersiwn gyda switsh o bell Surestop, rhoi’r switsh cloi i lawr. Os mai fersiwn pres sydd gennych a’i fod wedi methu neu os ydych chi neu’r bobl sy’n byw gyda chi yn methu atal y prif bibell ddŵr, gofynnwch am help fel mater o frys gan blymiwr cymwys.

2.Unwaith y bydd y cyflenwad dŵr wedi ei droi i ffwrdd a’i ynysu, trowch y tapiau oer ymlaen i ryddhau unrhyw ddŵr sydd eisoes yn y pibelli a fflysiwch y toiled sawl gwaith. Gwnewch hyn eto ar gyfer y tapiau poeth, ar ôl troi’r system wresogi i ffwrdd. Bydd hyn yn y diwedd yn draenio’r dŵr sydd ar ôl allan o’r pibelli.

3.Ffoniwch blymiwr proffesiynol ar frys a all roi rhan(nau) newydd o’r bibell a fyrstiodd a chysylltu â’ch cwmni yswiriant.

4.I’ch diogelu yn y dyfodol, os gosodwyd stopfalf pres, ystyriwch gael Surestop Stopcock. Ni fydd angen tynnu na defnyddio’r fersiwn pres, ond dylid gosod model Stopcock mewn lleoliad rhwydd i gael mynediad iddo.

Ein rhestr wirio gaeaf:

1.Gwirio pibelli o amgylch y cartref yn rheolaidd am chwyddo neu farrug.

2.Os ydych yn gadael y tŷ yn wag am gyfnod hir neu am wyliau yn ystod y gaeaf, dylech droi eich prif gyflenwad dŵr i ffwrdd rhag ofn.

3.Gwybod ble mae’r stopfalf a bod pawb sy’n byw yn y tŷ hefyd yn gwybod ble mae.

4.Os mai stopfalf pres sydd, gwnewch yn siŵr nad yw calchgen wedi effeithio arno; i gael diogeliad a mynediad gwell a chyflymach, ystyriwch ofyn i blymiwr osod fersiwn Surestop.

5.Insiwleiddio pibelli tu allan sy’n aml yn agored i farrug, yn ogystal â phibelli sy’n rhedeg drwy fannau oer yn yr atig.

6.Gwneud yn siŵr fod pobl sy’n byw yn yr un tŷ â chi yn gwybod beth i’w wneud os yw pibell yn byrstio a sut i ymateb yn gyflym.

Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu a’i chynhyrchu gan SureStop Cyf, partner dibynadwy i Care & Repair Cymru.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.