Posted: 25.08.2023
Author: jack
Yma mae Anthony yn rhannu ei brofiadau a sut y mae Gofal a Thrwsio wedi ei helpu:
“Tua naw mlynedd yn ôl roeddwn yn nesu at 28 stôn. Roeddem wedi dioddef colled ofnadwy wrth golli plentyn ac nid oeddem erioed wedi delio gyda hynny’n iawn. Fe wnaethom golli ein swyddi, fe wnaeth rhywun ladrata o’r tŷ, ac mi fuodd raid i ni newid ein bywydau yn llwyr, ac fe wnes i gynyddu fy mhwysau gan nad oeddwn wedi delio hefo’r peth.
“Roeddwn wedi chwarae tenis pan oeddwn yn ifanc felly fe wnes i ail ddechrau chwarae yn lleol ac yn y pen draw mi gollais 11 stôn a hanner. Fe’m gwnaed yn Llysgennad Tennis Cymru dros y gamp. Rwy’n caru tennis ac mae fy ngwraig yn caru tennis – dyma’r peth sydd wedi rhoi ffocws i ni ers y trychineb.
“Erbyn hyn mae fy nau ben-glin yn ddrwg – mae un ychydig yn waeth na’r llall a dyna’r un fydd yn cael triniaeth gyntaf. Hyd hynny mae’n rhaid i mi ymdopi, felly yn sicr roedd yn rhaid i mi wneud addasiadau yn y tŷ. Roedd yn lle diogel unwaith ac roeddwn yn ei gymryd yn ganiataol ond mae wedi mynd yn lle allai fod yn beryglus iawn. Felly, fe gysylltais ag elusen Age Connects a nhw wnaeth argymell fy mod yn cysylltu â Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych.
“Fe wnes i ffonio ac roedden nhw mor barod i helpu a chydymdeimlo. Arweiniodd hynny at rywun yn cael ei anfon allan gan Gofal a Thrwsio. Fe ddaeth o gwmpas y tŷ hefo fi a gwneud asesiad, gan edrych ar yr holl bethau a fyddai o fudd i mi a gwneud y tŷ yn lle diogel.
“Nid oedd rhaid i ni dalu am ddim byd, dyna sy’n rhyfeddol. Fe ddaethant draw a rhoi canllawiau i fyny, fe wnaethant osod ail relen i fyny’r grisiau, a chodi sedd y toiled. Pethau bach ydyn nhw, achos dim ond angen rhywbeth bach sydd, ymyl ychydig yn uwch neu rywbeth, ac fe allwn i syrthio. Os byddaf yn syrthio mae’n anodd iawn i mi godi fy hun.
“Fe wnaethon nhw edrych ar fy ôl i mewn gwirionedd, mewn ffordd nad oedd neb arall wedi gwneud. Rwy’n gwerthfawrogi hynny gymaint. Roedd y bobl a ddaeth draw yn gyfeillgar, fe wnaethant y gwaith yn broffesiynol, a’i wneud yn gyflym iawn hefyd. Maen nhw wirioneddol wedi gwneud fy nghartref yn lle mwy diogel.
“Dim ond pethau bach ydyn nhw ond i bobl sydd â rhai anableddau maen nhw’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn y byd. Rwy’n teimlo mor ddiogel yn awr.
“Fe wnaethon ni weld wedyn bod Gofal a Thrwsio yn gosod ystafelloedd gwlyb. Fe wnaethom sôn am bwysigrwydd cael ystafell wlyb ac fe wnaethom gytuno i ariannu’r gwaith ein hunain. Yr amserlen oedd pum niwrnod i gwblhau’r gwaith. Fe wnaethon nhw bopeth yn berffaith. Rwy’n mynd yno yn awr ac mae mor gyfforddus, rwy’n gallu cerdded i mewn ac ymolchi mewn cawod iawn.
“Mae’r llawfeddyg yn dweud na all warantu fy mod yn mynd i fynd yn ôl i chwarae tennis pan fydd hyn wedi ei wneud, ond rwy’n mynd i allu. Hyd yn oed petawn i’n sefyll wrth y rhwyd gyda raced fe fyddaf yn chwarae tennis eto, dyna sy’n fy nghymell ymlaen. Rwy’n meddwl y dylai unrhyw un, dan unrhyw amgylchiadau fynd ati i wneud rhyw gamp, gwneud ffrindiau a rhoi her i chi eich hun.
Yn ddiweddar bu Anthony yn siarad â BBC Wales am ei iechyd a’r gwaith y mae Gofal a Thrwsio wedi ei wneud i’w gefnogi.
Ystafell ymolchi wlyb newydd Anthony:
Er mwyn cael gweld o gwmpas ystafell ymolchi newydd Anthony, gallwch edrych ar y ddelwedd 360 gradd hon.
Os oes arnoch chi eisiau help gartref yr un fath ag Anthony, cysylltwch a’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol.