Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Mae Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn yn cael ei reoli gan Canllaw, menter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.

Cyswllt Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Amdanom ni

    Darparwn wasanaethau tai ac atebion ymarferol wrth ymateb i anghenion tai pobl hŷn neu fregus ac yn ceisio lleihau eu hanfanteision cymdeithasol a chyfrannu tuag at adfywiogi eu cymunedau a chynnal yr iaith Gymraeg.

    Yn wreiddiol roedd dwy asiantaeth Gofal a Thrwsio o fewn Canllaw, sef Gofal a Thrwsio Gwynedd a Gofal a Thrwsio Môn, ac yn Ebrill 2015, fe’u cyfunwyd yn un Asiantaeth newydd.

    Mae ein hethos wedi ei seilio erioed ar wasanaeth sy’n canolbwyntio ar y cleient, yn ymateb i broblem ac nid yn gyfangwbl ar adeiladu ac atgyweirio. Mae’r ymagwedd holistig hon wedi bod yn ffactor allweddol o ran llwyddiant y gwasanaeth. Rydym yn ceisio cyfleoedd i adeiladu y tu hwnt i waith Gofal a Thrwsio ac i gefnogi mwy o bobl fregus o fewn ein cymunedau sydd angen gwasanaethau tai.

    O fewn Canllaw, mae dau fusnes sy’n gweithredu ar wahân, sef:

    • Canllaw Addasu sydd â thîm o grefftwyr profiadol sy’n medru cyflawni gweithiau bach a mawr ar gartrefi ein cleientiaid, o osod seff allweddi i addasu ystafell ymolchi yn ystafell wlyb foethus. Dyfynbrisiau cystadleuol a gwaith o safon.
    • Canllaw Technegol sy’n gallu darparu cynlluniau a lluniadau pensaernïol manwl, cysylltu â’r awdurdod lleol i sicrhau y cadwyd at yr holl reoliadau adeiladu, a sicrhau caniatâd cynllunio os oes angen – eto am bris cystadleuol a gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid.

    Achrediadau

    Ein Partneriaid

    Cyngor Gwynedd

    Cyngor Sir Ynys Môn

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Grŵp Cynefin

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.