Darparwn wasanaethau tai ac atebion ymarferol wrth ymateb i anghenion tai pobl hŷn neu fregus ac yn ceisio lleihau eu hanfanteision cymdeithasol a chyfrannu tuag at adfywiogi eu cymunedau a chynnal yr iaith Gymraeg.
Yn wreiddiol roedd dwy asiantaeth Gofal a Thrwsio o fewn Canllaw, sef Gofal a Thrwsio Gwynedd a Gofal a Thrwsio Môn, ac yn Ebrill 2015, fe’u cyfunwyd yn un Asiantaeth newydd.
Mae ein hethos wedi ei seilio erioed ar wasanaeth sy’n canolbwyntio ar y cleient, yn ymateb i broblem ac nid yn gyfangwbl ar adeiladu ac atgyweirio. Mae’r ymagwedd holistig hon wedi bod yn ffactor allweddol o ran llwyddiant y gwasanaeth. Rydym yn ceisio cyfleoedd i adeiladu y tu hwnt i waith Gofal a Thrwsio ac i gefnogi mwy o bobl fregus o fewn ein cymunedau sydd angen gwasanaethau tai.
O fewn Canllaw, mae dau fusnes sy’n gweithredu ar wahân, sef:
- Canllaw Addasu sydd â thîm o grefftwyr profiadol sy’n medru cyflawni gweithiau bach a mawr ar gartrefi ein cleientiaid, o osod seff allweddi i addasu ystafell ymolchi yn ystafell wlyb foethus. Dyfynbrisiau cystadleuol a gwaith o safon.
- Canllaw Technegol sy’n gallu darparu cynlluniau a lluniadau pensaernïol manwl, cysylltu â’r awdurdod lleol i sicrhau y cadwyd at yr holl reoliadau adeiladu, a sicrhau caniatâd cynllunio os oes angen – eto am bris cystadleuol a gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid.