Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Cenhadaeth Gofal a Thrwsio Bae Abertawe yw sicrhau y caiff pob person hŷn eu cefnogi i fyw mewn cartref diogel, twym a saff mor annibynnol ag sydd modd cyhyd ag sydd modd.

Cyswllt Gofal a Thrwsio Bae Gorllewinol

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Amdanom ni

    Cyflawnwn hyn drwy amrywiaeth o wasanaethau cyngor a ddarperir gan ein Gweithwyr Achos a Swyddogion Technegol, a thrwy welliannau cartref a ddarperir gan ein gwasanaeth Tasgmon.

    Mae Gofal a Thrwsio yn ddull gwasanaeth unigryw, sy’n cyfuno asesiad unigol cysylltiedig â gofal cymdeithasol a gwerthoedd yn gysylltiedig ag urddas, gofal a pharch, i’r arbenigedd technegol sydd ei angen ar gyfer rheoli gwaith adeiladu. Ein swyddogaeth greiddiol yw darparu gwasanaeth cysylltiedig â thai drwy ymweld â chartrefi.

    Mae’n wasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac a gaiff ei arwain gan broblemau sy’n seiliedig ar ymweliad i gartrefi pobl hŷn. Yn hynny o’r beth mae’n cysylltu asesiad dynol gydag asesiad technegol o’r amgylchedd byw, er mwyn darparu pecyn personol o wella cartrefi.
    Ffurfiwyd Gofal a Thrwsio Bae Gorllewinol ym mis Ionawr 2017 pan unwyd yr asiantaethau blaenorol yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

    Achrediadau

    Mae gennym achrediad AQS

    Yr AQS (Safon Ansawdd Cyngor) yw’r nod ansawdd ar gyfer sefydliadau sy’n darparu cyngor i’r cyhoedd ar faterion lles cymdeithasol.

    Rydym yn elusen ddibynadwy

    Achrediad a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n dilysu ansawdd a hygrededd ein gwaith, a ddyfarnwyd gan Gyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVQ).

    Ein Partneriaid

    Sir a Dinas Abertawe

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.