Cyflawnwn hyn drwy amrywiaeth o wasanaethau cyngor a ddarperir gan ein Gweithwyr Achos a Swyddogion Technegol, a thrwy welliannau cartref a ddarperir gan ein gwasanaeth Tasgmon.
Mae Gofal a Thrwsio yn ddull gwasanaeth unigryw, sy’n cyfuno asesiad unigol cysylltiedig â gofal cymdeithasol a gwerthoedd yn gysylltiedig ag urddas, gofal a pharch, i’r arbenigedd technegol sydd ei angen ar gyfer rheoli gwaith adeiladu. Ein swyddogaeth greiddiol yw darparu gwasanaeth cysylltiedig â thai drwy ymweld â chartrefi.
Mae’n wasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac a gaiff ei arwain gan broblemau sy’n seiliedig ar ymweliad i gartrefi pobl hŷn. Yn hynny o’r beth mae’n cysylltu asesiad dynol gydag asesiad technegol o’r amgylchedd byw, er mwyn darparu pecyn personol o wella cartrefi.
Ffurfiwyd Gofal a Thrwsio Bae Gorllewinol ym mis Ionawr 2017 pan unwyd yr asiantaethau blaenorol yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe.