Sefydlwyd Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ym mis Gorffennaf 2015 pan unwyd asiantaethau Gofal a Thrwsio Ceredigion a Sir Benfro. Cawn ein rheoli gan Fwrdd Rheoli gwirfoddol sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Benfro a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn cynnig gwasanaeth pwrpasol cyflawn i ddiwallu anghenion pobl dros 60 oed neu sydd ag anabledd. Mae ein crefftwyr medrus yn helpu ein cwsmeriaid gydag amrywiaeth o fân weithiau addasu ac atgyweirio. Mae ein gweithwyr achos ymroddedig yn ymweld â chwsmeriaid yn eu cartrefi i drafod diogelwch cartrefi, hawl i fudd-daliadau neu gyngor ar wasanaethau lleol a rhoi cyngor a chymorth.
Mae’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau yn rhad ac am ddim neu ar gael am ffi isel ac anelwn ganfod y datrysiad gorau i helpu cwsmeriaid gyda diogelwch ac annibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain.