Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Mae Gofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru yn asiantaeth annibynnol gwella cartrefi sy’n gweithredu yn Sir y Fflint a Wrecsam.

Cyswllt Gofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Drwy lenwi’r ffurflen hon rydych yn cytuno i’ch neges gael ei hanfon drwy e-bost at Gofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru. Rydym yn addo cadw eich manylion yn ddiogel yn unol â’n Polisi Preifatrwydd. Mae hyn yn golygu mai dim ond Gofal a Thrwsio fydd yn defnyddio eich manylion ac na chânt byth eu trosglwyddo i gyrff eraill ar gyfer dibenion marchnata.

    Amdanom ni

    Rydym yn Gymdeithas Budd Cymunedol gyda statws elusennol. Ein rôl yw cynorthwyo pobl hŷn a dan anfantais i fyw’n annibynnol drwy roi cymorth yng nghyswllt atgyweiriadau, adnewyddu, cynnal a chadw ac addasiadau, gan alluogi pobl i fyw mewn cartref diogel, cynnes a saff.

    Caiff hyn ei gyflawni drwy ymweliad cartref gan aelod ymroddedig o staff sy’n rhoi cyngor ar ddatrysiadau atgyweirio tai, cynnal a chadw cartrefi, diogelwch, gwres, effeithiolrwydd ynni a ffynonellau posibl o gyllid ar gyfer cwblhau’r gwaith. Cynigir cyngor ar fudd-daliadau i gynyddu incwm sy’n helpu gyda thlodi tanwydd.

    Mae arbenigedd technegol ar gael ar bob agwedd o waith adeiladu yn cynnwys dewis adeiladwyr addas, tendro effeithlon a monitro’r gwaith ar safle. Mae’r asiantaeth yn cadw cofrestr o gontractwyr ac ymgynghorwyr dibynadwy.

    Achrediadau

    Rydym yn gontractwr diogel

    Rydym wedi ennill achrediad SafeContractor Alcumulus am sicrhau rhagoriaeth mewn iechyd a diogelwch.

    Ein Partneriaid

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Cyngor Sir y Fflint

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.