Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Mae Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen yn darparu help a chyngor i berchenogion tai a thenantiaid preifat 60+ oed i’w galluogi i barhau’n ddiogel ac annibynnol.

Cyswllt Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Drwy lenwi’r ffurflen hon rydych yn cytuno i’ch neges gael ei hanfon drwy e-bost at Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen. Rydym yn addo cadw eich manylion yn ddiogel yn unol â’n Polisi Preifatrwydd. Mae hyn yn golygu mai dim ond Gofal a Thrwsio fydd yn defnyddio eich manylion ac na chânt byth eu trosglwyddo i gyrff eraill ar gyfer dibenion marchnata.

    Amdanom ni

    Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid lleol i ddarparu cyngor ac atebion ymarferol i bobl hŷn. Ein cennad yw helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth wrth fynd yn hŷn, gan sicrhau fod eu tai yn ddiogel, twym ac yn addas ar gyfer eu hanghenion. Bydd Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen yn helpu mewn unrhyw ffordd a allant i alluogi pobl hŷn i gadw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

    Achrediadau

    Mae gennym achrediad AQS

    Y Safon Ansawdd Cyngor (AQS) yw’r nod ansawdd ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar faterion lles cymdeithasol.

    Ein Partneriaid

    Cyngor Sir Fynwy

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

    Cartrefi Melin

    Cartrefi Cymunedol Bron Afon

    Cymdeithas Tai Sir Fynwy

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.