Ein rôl yw helpu pobl hŷn dros 60 oed ac oedolion anabl sy’n byw mewn tai sector preifat trwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol mewn perthynas â gwaith atgyweirio, adnewyddu tai, gwaith cynnal a chadw ac addasiadau i’w cartrefi i’w galluogi i fyw yn annibynnol mewn cartrefi saff, cynnes a diogel.
Gallwn ddarparu cyngor a chymorth ymarferol gyda’r canlynol:
- Aros yn ddiogel yn eich cartref eich hun a chynnal Gwiriad Cartref Iach;
- Dewisiadau / datrysiadau tai i’ch galluogi chi i barhau’n annibynnol yn eich cartref eich hun;
- Cyngor ac arweiniad technegol mewn perthynas â gwaith atgyweirio / gwelliannau neu addasiadau;
- Uchafu incwm: gall ein Gweithiwr Achos ddarparu asesiad budd-daliadau ar eich cyfer i sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau priodol;
- Argymell contractwyr o’n rhestr contractwyr cymeradwy;
- Cymorth ymarferol ar drefnu a monitro gwaith i sicrhau ei fod wedi ei gyflawni i safon dderbyniol;
- Cymorth i wneud ceisiadau am grantiau a budd-daliadau;
- Gwneud ceisiadau am grantiau i wneud eich tŷ yn fwy cynnes;
- Gwiriad Diogelwch Tân yn y Cartref mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub;
- Gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach yn sicrhau bod addasiadau hanfodol yn cael eu gwneud i gartref claf fel bod modd eu rhyddhau o’r ysbyty’n ddiogel.
- Ymdopi’n well – gwybodaeth a chymorth ymarferol i bobl hŷn sydd â nam ar y synhwyrau.