Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Nod Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr yw galluogi pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain drwy wella cyflwr eu tai a lefel eu diogelwch, lles a chysur.

Cyswllt Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Drwy lenwi’r ffurflen hon rydych yn cytuno i’ch neges gael ei hanfon drwy e-bost at Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn addo cadw eich manylion yn ddiogel yn unol â’n Polisi Preifatrwydd. Mae hyn yn golygu mai dim ond Gofal a Thrwsio fydd yn defnyddio eich manylion ac na chânt byth eu trosglwyddo i gyrff eraill ar gyfer dibenion marchnata.

    Amdanom ni

    Cynigiwn ddull gwasanaeth unigryw sy’n cyfuno asesiad o’r cleient gyda gwerthoedd sydd ynghlwm ag urddas, gofal a pharch yn ogystal â darparu arbenigedd technegol ar gyfer rheoli gwaith adeiladu.
    Darparwn wasanaeth pwrpasol dan arweiniad y cleient sy’n cynnwys cyngor a chymorth cynhwysfawr i bobl hŷn ar gyfer atgyweirio tai, gwaith cynnal a chadw a/neu gwaith addasu, technoleg gynorthwyol ac ystod o ymyriadau diogelwch yn y cartref sydd eu hangen i alluogi pobl i barhau i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
    Mae hyn yn cynnwys:
    •Cyngor ar ddewisiadau tai, cynnal a chadw tai, diogeledd, effeithlonrwydd ynni a ffynonellau ariannol posib sydd ar gael drwy grantiau llywodraeth leol, ffynonellau elusennol a/neu fenthyciadau preifat.
    •Cyngor a chymorth ar fudd-daliadau i wneud y gorau o unrhyw incwm a chynnal annibyniaeth. Bydd hyn hefyd yn helpu i wrthsefyll tlodi tanwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
    •Eiriolaeth a chyswllt gydag ystod o sefydliadau statudol, preifat a sector gwirfoddol ar ran y cleient.
    •Cyfeirio effeithiol at amrywiaeth o sefydliadau eraill, yn cynnwys gwybodaeth a chyngor.
    •Arbenigedd technegol ar pob agwedd o waith adeiladu yn cynnwys sicrhau amcanbrisiau, dethol adeiladwr addas a monitro a goruchwylio yr holl waith er mwyn sicrhau safonau gwaith uchel.
    •Cymorth a chefnogaeth ymarferol trwy gydol y gwaith trwsio, gwella a/neu addasu.

    Achrediadau

    Mae gennym gchrediad AQS

    Y Safon Ansawdd Cyngor (AQS) yw’r nod ansawdd ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar faterion lles cymdeithasol.

    Rydym yn gontractwr diogel

    Rydym wedi ennill achrediad SafeContractor Alcumulus am sicrhau rhagoriaeth iechyd a diogelwch.

    Gwobr Iechyd Gweithle Bach

    Dyfarnwyd Gwobr Iechyd Gweithle Bach i ni gan y GIG Cymru.

    Ein Partneriaid

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

    Tai Cymoedd i’r Arfordir

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.