Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Mae Gofal a Thrwsio Blaenau Gwent a Chaerffili yn asiantaeth annibynnol gwella cartrefi, ac yn elusen gofrestredig.

Cyswllt Gofal a Thrwsio Blaenau Gwent a Caerffili

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Amdanom ni

    Ein nod yw helpu pobl hŷn a phobl fregus i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi gyhyd ag sy’n bosibl.

    Rydym yn cynnig cyngor ymarferol am ddim ar addasiadau, gwaith atgyweirio a gwelliannau bach i dai. Rydym yn darparu gwasanaeth ‘cyfannol’ sy’n golygu ein bod yn ceisio cefnogi cleientiaid nid yn unig mewn perthynas â gweithiau penodol, ond hefyd mewn perthynas ag unrhyw waith, ymyriad neu gymorth a fyddai o fudd i gleient. Fe allai hyn gynnwys eu cyfeirio at gyrff eraill sy’n cynnig help mewn meysydd na allwn ni roi help ynddynt.

    Achrediadau

    Mae gennym achrediad AQS

    Y Safon Ansawdd Cyngor (AQS) yw’r nod ansawdd ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar faterion lles cymdeithasol. 


    Rydym yn Gontractwr Diogel

    Rydym wedi ennill achrediad SafeContractor Alcumulus am sicrhau rhagoriaeth mewn iechyd a diogelwch.

    Ein Partneriaid

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

    Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.