Ein nod yw helpu pobl hŷn a phobl fregus i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi gyhyd ag sy’n bosibl.
Rydym yn cynnig cyngor ymarferol am ddim ar addasiadau, gwaith atgyweirio a gwelliannau bach i dai. Rydym yn darparu gwasanaeth ‘cyfannol’ sy’n golygu ein bod yn ceisio cefnogi cleientiaid nid yn unig mewn perthynas â gweithiau penodol, ond hefyd mewn perthynas ag unrhyw waith, ymyriad neu gymorth a fyddai o fudd i gleient. Fe allai hyn gynnwys eu cyfeirio at gyrff eraill sy’n cynnig help mewn meysydd na allwn ni roi help ynddynt.