Bu 2023 yn flwyddyn o heriau di-baid ar gyfer ein hanwyliaid hŷn a bregus.

Gwelsom chwyddiant a phrisiau ynni hanesyddol uchel, y nifer uchaf erioed mewn tlodi tanwydd, galw cynyddol am addasiadau i gartrefi i gefnogi byw annibynnol, a chynyddu nifer y bobl hŷn sy’n byw mewn tai anaddas, heb unrhyw incwm dros ben i ddelio gyda gwaith atgyweirio brys a chynnal a chadw.

Yn y sefyllfa hon rydym yn falch o’r gwasanaethau a’r gefnogaeth yr ydym wedi eu cynnig i’n cenedlaethau hŷn bregus i’w helpu i wella eu hamodau byw, hygyrchedd a chynhesrwydd yn y lle a alwant yn gartref. Mae ein timau Gofal a Thrwsio proffesiynol, medrus, gofalgar ac angerddol ledled Cymru – Prif Swyddogion, Gweithwyr Achos, Swyddogion Technegol, Tasgmyn, staff cefnogi ac ymddiriedolwyr – i gyd wedi gweithio’n ddiflino ar y rheng flaen i wella bywydau a llesiant pobl hŷn. Mae’r ffeithluniau hyn yn rhoi penawdau o’r math o wasanaethau a faint o gefnogaeth a help a roddwyd (mae’r holl ffigurau yn amcangyfrifon ar gyfer blwyddyn galendr 2023).

 

Dylanwad a Pholisi

Fel y corff cenedlaethol, mae’r tîm  yn Care & Repair Cymru wedi gweithio’n galed i dynnu sylw at y problemau hyn, gan ddweud straeon pobl hŷn sydd angen ein help drwy ein gwaith cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, gan roi tystiolaeth a gwerthusiad ac effaith o’n gwaith, a drwy hyn gyflwyno’r achos ar gyfer gwella polisi a chyllid.


 

Tyfu ein Prosiectau

Yn 2023 fe wnaethom weithio i ddatblygu a thyfu prosiectau blaengar tebyg i Ymdopi’n Well, Ysbyty i Gartref Iachach a gwasanaeth tlodi tanwydd newydd gyda’n partner Wales & West Utilities a lansir yn gynnar yn 2024 ac a fydd ar gael ledled Cymru. Mae’r ystadegau isod yn dangos y gwaith enfawr a aeth i mewn i’r gwasanaethau argyfwng hyn ledled Cymru.

 

Diolch

Rydym wedi gweithio’n galed i gyflawni gwaith partneriaeth cryf ar draws y trydydd sector, gydag awdurdodau lleol a GIG Cymru, a gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu ansawdd, cysondeb ac arloesedd yn ein gwaith. Rydym yn ddiolchgar i’n holl bartneriaid am eu cefnogaeth, cyllid ac argyhoeddiad a rannwn am bwysigrwydd tai ansawdd da wrth wella iechyd a llesiant pobl hŷn.

Edrych Ymlaen

Rydym yn awr yn edrych ymlaen yn benderfynol at 2024. Mae’n sicr y bydd yn flwyddyn arall o heriau. Tuag at ddiwedd y flwyddyn, cawsom nifer o sgyrsiau a sesiynau cynllunio gyda’n holl Asiantaethau ac yn Care & Repair Cymru ac erbyn Ebrill 2024 byddwn yn lansio strategaeth newydd bum-mlynedd yn dynodi sut y byddwn yn parhau i gyflenwi a thyfu Gofal a Thrwsio ar draws Cymru, cryfhau ein sefydliadau a gwasanaethau a pharthau i fod ar flaen y gad wrth gefnogi pobl hŷn a gwella eu cartrefi yn y blynyddoedd i ddod.

 

Chris Jones
Prif Weithredwr, Care & Repair Cymru

chris.jones@careandrepair.org.uk

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.