Mae Prosiect Mamwlad yn cefnogi pobl hŷn yn y gymuned amaethyddol ym Mhowys i barhau i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac i fynd i’r afael ac unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae’n bartneriaeth rhwng Gofal a Thrwsio ym Mhowys ac Age Cymru Powys, ac fe’i cyllidir gan Lywodraeth Cymru. Yma mae Lesley Price o Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn disgrifio diwrnod fel Gweithiwr Achos Mamwlad.

9am

Mae’n fore dydd Llun ac yn amser edrych drwy fy negeseuon e-bost a ffôn, gwirio atgyfeiriadau a pharatoi ar gyfer yr wythnos. Rwy’n ffonio dau gleient y byddaf yn ymweld â nhw yn ddiweddarach yn yr wythnos i ofyn iddynt baratoi eu cyfriflenni banc fel y gallaf wirio eu cymhwyster ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Rydym wedi cael argymhellion therapi galwedigaethol ar gyfer y ddau ar gyfer cawod cerdded i mewn. Rwy’n edrych yn gyflym ar fy stoc Gweithiwr Achos i sicrhau fod popeth rwyf ei angen gen i ar gyfer ymweliadau’r wythnos yn cynnwys monitorau CO, larymau mwg, bylbiau golau a ffurflenni lwfans gweini.

10.30am

Ar ôl mynd â thaflenni Mamwlad i safle’r milfeddygon lleol, rwy’n cyrraedd fy ymweliad cyntaf o’r dydd mewn ffermdy gwledig. Mae’r cleient yn ddyn yn ei saith degau sydd wedi cael strôc ac sy’n cael trafferthion symud. Mae ei fam, sy’n 95 oed, yn byw gydag ef. Rwy’n cynnal Gwiriad Cartrefi Iach gyda’r cleient i ganfod beth sydd ei angen. Mae’r ffermdy mewn cyflwr gwael heb system wresogi, ffenestri wedi torri a system drydanol hen-ffasiwn. Mae’r cleient yn cael trafferth gyda’r grisiau ac wedi gwrthod lifft grisiau a’r opsiwn i gysgu lawr grisiau. Mae gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol yn gysylltiedig ac mae gofalwyr a nyrsys ardal yn ymweld bob dydd. Ar ôl trafod, rydym yn cytuno ar gynllun i helpu gwneud y cartref yn fwy diogel. Rydym yn cytuno gosod rheilen grisiau ac yn cymryd y mesuriadau ar gyfer hyn. Cytunodd y cleient hefyd i edrych ar ei sefyllfa ariannol i weld os gallwn ganfod unrhyw gyllid i wirio’r gwaith trydan a’i wneud yn ddiogel os oes angen. Rwyf hefyd yn gwneud atgyfeiriad gwasanaeth tân gan fod nifer o beryglon trydan yn yr eiddo. Caiff monitor CO hefyd ei ddarparu. Rwyf hefyd yn cytuno i wneud atgyfeiriad i Age Cymru Powys i’r Swyddog Ynni Cartrefi  edrych ar y gwresogi yn y tŷ gan nad oes unrhyw reiddiaduron ar hyn o bryd a hefyd i Weithiwr Achos Mamwlad yn Age Cymru Powys i gynnal gwiriad budd-daliadau a hawlio lwfans gweini.

 

 

12pm

Mae fy ymweliad nesaf i arolygu gwaith y mae’r tîm Mân Addasiadau mewnol wedi ei gwblhau. Mae’r cleient yn ei 70au a syrthiodd yn ddiweddar a thorri ei choes. Treuliodd dair wythnos yn yr ysbyty ac mae’n awyddus bod mor annibynnol ag sydd modd. Cafodd nifer o ganllawiau eu gosod tu mewn a’r tu allan. Gwiriais nhw i gyd i sicrhau eu bod wedi eu gosod yn gywir. Dywedodd y cleient ei bod yn fodlon tu hwnt gyda’r gwaith gorffenedig a bod y canllawiau wedi cynyddu ei hyder a’i hannibyniaeth.

12.30pm

Mae fy nghleient nesaf ar fferm anghysbell ddwy filltir o’r pentref agosaf. Bu’r cleient yn yr ysbyty am y chwe mis diwethaf yn dilyn strôc. Ers y strôc, mae’r cleient yn defnyddio dyfais cerdded sydyn i fynd o amgylch y tŷ. Rwy’n cynnal Gwiriad Cartrefi Iach ac yn dynodi’r angen am rampiau i sicrhau y gall y ddyfais fynd i mewn drwy’r drws yn ddiogel. Mae therapyddion galwedigaethol hefyd yn helpu ac maent eisoes wedi dynodi’r angen am lwybr tu allan i gael ei wella a gosod rheilen allanol wedi’i galfaneiddio.

 

Lesley and Amy - Mamwlad Caseworkers

Lesley ac Amy – Gweithwyr Achos Mamwlad

2pm

Mae fy ymweliad prynhawn yn dilyn atgyfeiriad gan Swyddog Mamwlad Age Cymru Powys. Mae ar gyfer cwpl yn eu 80au sy’n byw mewn hen ffermdy. Mae Swyddog Mamwlad eisoes wedi cwblhau gwiriad budd-daliadau a gwneud cais am lwfans gweini ar eu rhan ac yn teimlo y byddai’n ddefnyddiol i mi ymweld. Cynhaliais Wiriad Cartrefi Iach a dynodi nifer o ganllawiau oedd eu hangen i atal syrthio a hefyd osod larwm mwg.

3pm

Amser am gyfarfod Llesiant Amaethyddol Powys a drefnwyd gan PAVO. Mae’r grŵp yn trafod beth sydd ar gael i’r sector amaethyddol yn yr ardal a chawsom gyfle i hyrwyddo prosiect Mamwlad. Mae partneriaid yn y grŵp yn cynnwys RABIDPJ, a Ponthafren – y gallwn atgyfeirio iddynt i gael cefnogaeth. Cynhelir trafodaethau am drefnu hyb llesiant yn y farchnad stoc da byw lleol.

4pm

Rwy’n mynd yn ôl i’r swyddfa, edrych ar fy negeseuon e-bost a dechrau teipio atgyfeiriadau sydd angen i mi eu gwneud o ymweliadau heddiw.

Lesley Price, Gweithiwr Achos Mamwlad
lesley.price@crpowys.co.uk

 

Mae mwy o wybodaeth am brosiect Mamwlad ar gael ar wefan Gofal a Thrwsio ym Mhowys.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.