Posted: 01.09.2022
Author: jack
Pan welais am y tro cyntaf yr hen dŷ’r ysgol lle mae Mairead a Vivion yn byw, clywais fy hun yn dweud “wow” yn uchel. Ar ôl gyrru am filltiroedd a gweld dim byd ond bryniau, mae’r adeilad trawiadol a godwyd yn oes Victoria yn ymddangos o unlle. Wedi’i adeiladu yn wreiddiol yn 1867 yng nghefn gwlad Powys, heb fod ymhell o’r hyn a alwyd yn Anialwch Cymru, mae’n cynrychioli oes arall.
Cefais groeso cynnes gan Mairead, a chynnig cwpanaid o de. Yn hanu o Iwerddon, mae hi a Vivion ei gŵr, 81, wedi byw yng Nghymru am bron 40 mlynedd.
Wrth i mi fynd mewn, mae Mairead yn codi o’i chadair ac yn cerdded ar draws yr ystafell fawr, gyda’i thiwb ocsigen yn ei chanlyn. “Fe ddylai fod mewn fan hyn, ond fe wnaethon ei roi yn y cyntedd oherwydd ei fod mor swnllyd”, meddai, gan bwyntio ar ddrws a sŵn yr offer sy’n ei chynorthwyo i anadlu.
Esboniodd nad oes ganddynt lawer a bod pob un o’u pedwar plentyn yn awr yn byw tu allan i Gymru. “Roedden ni yn arfer ymweld â nhw, nawr maen nhw’n gorfod dod atom ni”, meddai. Bu ei hiechyd yn dirywio ers i dyfiant ddatblygu yn ei hysgyfaint chwith chwe mlynedd yn ôl. Ar ôl cael cemotherapi, a diagnosis wedyn o COPD, mae’n awr angen ocsigen yn barhaus.
Mae’r cynnydd dramatig mewn prisiau ynni yn effeithio ar bawb ohonom ond i rywun sy’n byw mewn tŷ 150 mlwydd oed ac yn dibynnu ar drydan bob awr o’r dydd a’r nos i weithio crynhöwr ocsigen mawr, bydd yn sicr yn llawer gwaeth.
Dechreuodd ei thrafferthion gyda’r cwmni trydan ddechrau mis Mawrth 2022. “Fe wnaethant gysylltu â fi yn annisgwyl yn dweud ‘bydd yn rhaid i ni godi eich debyd uniongyrchol o £54 i £108’. Meddyliais, ‘Dduw mawr, mae hynny’n newid mawr iawn’. Fe wnes eu ffonio a dweud fod hyn yn afresymol. Fe wnaethant edrych i mewn iddo a dod yn ôl a dweud ‘mewn gwirionedd, oherwydd cyflwr eich iechyd, fe allwn ei wneud am £79,’ Roedd popeth yn iawn am dri mis a’r peth nesaf fe gefais e-bost arall yn dweud nad oeddwn yn talu digon am faint o drydan roeddwn yn ei ddefnyddio. Ac yna fe wnes feddwl, wrth gwrs, yr ocsigen yw hynny!
Y newyddion da i Mairead yw fod ad-daliad ar gael iddi am y trydan y mae’r peiriant ocsigen yn ei ddefnyddio. Eto nid yw hyn yn ei gwneud yn llai pryderus pan ofynnaf iddi sut mae’n teimlo am y cynnydd mawr nesaf mewn biliau ynni – ei hymateb un gair ‘arswydus”.
Mae’r hen adeilad ysgol a’r pedwar cartref sydd ynddo bellach i gyd oddi ar y grid. Mae Mairead a Vivion yn dibynnu ar foeler olew a dau losgwr pren am wres. Fodd bynnag, ar ôl 22 mlynedd, roedd y boeler yn annibynadwy ac yn ddrud iawn i’w redeg. Clywodd Mairead am gynllun Nyth ac y gallai Gofal a Thrwsio helpu. “Roedd cyflwr y boeler wedi mynd yn wael iawn,” meddai. “Felly fe daeth Steve [o Gofal a Thrwsio Powys] a fy helpu. Fe ddangosodd i mi sut i ddweud wrth Nyth mod i angen boeler oherwydd problemau iechyd. Felly, fe gefais y boeler ac mae’n wych oherwydd does gennym ni ddim llawer o arian, dim ond ein pensiwn sydd gennym. roedd yn wych cael yr help a wnaethom a chadw’r gwres i fynd.”
Mewn misoedd diweddar, mae llawer o bobl hŷn yn dechrau newid eu harferion i ostwng eu biliau ac arbed arian, hyd yn oed os yw weithiau’n peryglu eu hiechyd. Gofynnais i Mairead os y byddent yn mynd i newid eu harferion. “Gobeithio ddim. Mae Viv yn wych am fynd o gwmpas yn casglu pren. Dyna ei briod waith, casglu pren a pheidio gorfod talu amdano.” Yna gan chwerthin iddi ei hun mae’n dweud, “Rydw i’n gorfod cyfrif y coed o hyd i wneud yn siŵr eu bod i gyd yno”.
Gallodd Gofal a Thrwsio ym Mhowys gefnogi Mairead mewn gwahanol ffyrdd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae canllawiau cydio wedi helpu i’w chadw’n ddiogel yn ei chartref ac roeddent yno i’w helpu eto pan oedd yn yr ysbyty. “Roedd gen i broblem gyda fy ysgwydd ac roeddwn yn yr ysbyty am bythefnos. Daeth Gofal a Thrwsio allan i weld beth fedrent ei wneud. Fe wnaethant benderfynu rhoi ystafell wlyb i mi ar gyfer ymolchi. Mae hynny yn wych, cael cawod i gerdded i mewn iddi yn lle bath na fedrwn fynd i mewn nac allan ohono.”
Jack Bentley, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata