Posted: 13.04.2026
Author: sarah
Ledled Cymru, mae llawer o bobl hŷn yn byw mewn cartrefi gyda lleithder, llwydni ac mewn cyflwr gwael yn strwythurol. Mae’r amodau hyn yn achosi risgiau corfforol difrifol a gallant waethygu problemau iechyd presennol.
Nod ein Apêl Cartrefi Iach yw codi £10,000 erbyn diwedd mis Mehefin 2026. Aiff arian i gronfa caledi arbennig i dalu am waith trwsio hollbwysig, yn cynnwys trwsio gwaith trydanol anniogel, trwsio toeau sy’n gollwng, gosod ffenestri a chloeon newydd yn lle rhai sydd wedi torri, trwsio cyfarpar nwy peryglus a gwella lloriau a stepiau anwastad.
Sut i gymryd rhan
Rydym yn gwahodd busnesau ac unigolion i gymryd rhan drwy drefnu heriau a chynlluniau codi arian lleol. Mae llawer o ffyrdd i gymryd rhan, o bethau syml fel gwerthu teisennau yn y swyddfa neu her stepiau i rywbeth mwy fel swîp Cwpan y Byd, marathon, mynd ar sip wifren neu hyd yn oed nen-blymio. Bydd ein pecyn codi arian yn rhoi popeth rydych ei angen i ddechrau arni. Mae’n gyfle gwych i wneud rhywbeth hwyliog, dod â phobl at ei gilydd a helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.
Mae stori Sandra yn dangos effaith y cymorth yma
Pan oedd Sandra, sy’n 64 oed, a’i gŵr yn wynebu sefyllfa anodd llawr lolfa wedi dymchwel, cawsant eu gadael yn byw mewn amodau anniogel heb unrhyw le i droi. Gwrthododd eu hyswiriant dalu am y gwaith trwsio ac roedd opsiynau cyllid pellach ar gau.
Er problemau iechyd parhaus a chymorth ariannol cyfyngedig, camodd gweithiwr achos Gofal a Thrwsio i mewn – gan drefnu gwiriadau diogelwch hanfodol a sicrhau cyllid drwy’r Gronfa O Draul i Gyflwr Gwell.
Golygodd y gronfa, a gaiff bellach ei chefnogi gan yr Apêl Cartrefi Iach, y gallai Sandra a’i gŵr barhau i fyw’n ddiogel yn eu cartref.
I gael mwy o wybodaeth amyr apêl ac i lawrlwytho pecyn codi arian, ewch i Apêl Cartrefi Iach