Sut gallwn ni helpu
Caiff prosiect Mamwlad ei gyflwyno gan Gofal a Thrwsio ym Mhowys ac Age Cymru Powys a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Bydd Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn neilltuo amser i siarad gyda chi am eich cartref ac yn rhoi cyngor ar opsiynau i addasu, atgyweirio a chynnal a chadw eich cartref, p’un ai ydych yn berchen arno neu yn ei rentu.
Byddwn yn cynnig Asesiad Cartref Iach yn rhad ac am ddim i’ch helpu i ymdopi’n well ac aros yn ddiogel, cynnes a saff.