Caiff ein gwasanaeth ei arwain gan y cleient ac mae’n seiliedig ar ymweliad i gartref y person hŷn. Bydd yr ymweliad yn arwain at becyn personol i wella cartref. Y nod yw cefnogi dewis y person hŷn i barhau i fyw yn eu cartref eu hunain a’u cymuned eu hunain cyhyd ag y gallant ac y dewisant wneud hynny.
Ffurfiwyd Gofal a Thrwsio Cwm Taf ym mis Ebrill 2016 pan unwyd asiantaethau blaenorol Rhondda Cynnon Taf a Merthyr Tudful. Mae’r Asiantaeth yn rhan o Grŵp Cartrefi Cymunedol Cynon Taf. Rydym yn sefydliad dim-er-elw a chawn ein hariannu gan Lywodraeth Cymru, yr Awdurdodau Lleol a’r Bwrdd Iechyd.