Cynhadledd Gofal a Thrwsio 2025

Tai a Chost Gwneud Dim
25 Medi 2025, Gwesty Hilton, Caerdydd

Y digwyddiad mwyaf yng Nghymru yn neilltuol ar gyfer tai pobl hŷn.

Bydd Cynhadledd Gofal a Thrwsio 2025 yn ymchwilio’r heriau tai sy’n wynebu pobl hŷn yng Nghymru heddiw. Os na wnawn unrhyw beth, beth fydd y gost gorfforol, emosiynol a hirdymor?

Bydd y diwrnod yn cynnwys siaradwyr gwadd, gweithdai, paneli trafod a neuadd arddangos. Ymunwch â ni wrth i ni drafod tai, iechyd a’n cenedlaethau hŷn.

Ar y dudalen hon mae rhestr lawn o siaradwyr y gynhadledd, arddangoswyr a gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y diwrnod. Bydd gwybodaeth fanwl ar weithdai ar gael yn fuan.

Lleoliad

Eleni rydym yng Nghaerdydd!

Cynhelir y gynhadledd yng Ngwesty’r Hilton. Y cyfeiriad llawn yw: Ffordd y Brenin/Kingsway, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd CF10 3HH. Mae mwy o wybodaeth am y lleoliad ar gael ar wefan Gwesty’r Hilton.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, anfonwch e-bost at events@careandrepair.org.uk.

Noder bod y gofrestru bellach wedi cau.

Gweithdai Cynhadledd

Atal Twyll – Diogelu ein Hunain ac Eraill

Steve Benson-Davison, Cynghorydd Atal Twyll, Uned Ranbarthol Troseddu Cyfundrefnol TARIAN

Twyll yw 41% o’r troseddau a gofnodir ym Mhrydain a chyflawnir 4 miliwn trosedd y flwyddyn gyda cholledion o dros £1 biliwn i unigolion a busnesau. Gyda 70% o dwyllwyr yn gweithredu o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, mae’r tebygrwydd o adnabod y gangiau troseddol ac adfer arian a gollwyd yn isel. Byddwn yn esbonio sut mae twyllwyr yn cael eich data personol a’r dulliau a ddefnyddiant i geisio dwyn gennych. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i gadw’n ddiogel ac adnabod arwyddion cyfathrebu twyllodrus.

Hynach Nid Oerach: Beth sydd Nesaf i’r Prosiect

Becky Ricketts, Care & Repair Cymru, Rheolwr Prosiect Hynach Nid Oerach and Sophie Shorney, Wales & West Utilities, Rheolwr VCMA

Mae’n rhaid i Hynach Nid Oerach yn awr edrych i 2026 a thu hwnt. Gan weithredu mewn amgylchedd gyda mwy o angen a thirlun polisi sy’n esblygu’n barhaus, gall Hynach Nid Oerach sicrhau na chaiff pobl hŷn eu gadael ar ôl yn y pontio i sero net. Ymunwch â ni am sesiwn yn dathlu’r hyn a gyflawnodd Hynach Nid Oerach hyd yma a’r cyfle i ddylanwadu ar nodau a blaenoriaethau’r gwasanaeth yn y dyfodol.

Polisi ar Waith: Codi Llas dros Bobl Hŷn

Faye Patton, Care & Repair Cymru, Pennaeth Polisi a Dirnadaeth and Katherine Evans, Care & Repair Cymru, Swyddog Polisi

Gwnewch effaith yn eich cymuned drwy ddylanwadu ar rhanddeiliaid lleol i gefnogi tai pobl hŷn. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi sylw i hanfodion dylanwadu lleol, darganfod ble a sut y gallwch wneud gwahaniaeth a datblygu eich cynllun gweithredu eich hun i hybu newid. Gyda thrafodaethau rhyngweithiol, gwaith ymarferol a gwybodaeth ar y tirlun dylanwadu yng Nghymru, bydd y gweithdy hwn yn ddiddorol a defnyddiol.

Gweithio ar y Rheng Flaen: Ai Staff yw ein Hased Orau?

Jack Bentley, Care & Repair Cymru, Pennaeth Datblygu Busnes and Stephen Thomas, Care & Repair Cymru, Cydlynydd Cenedlaethol – Ymdopi’n Well

Tu ôl i bob cartref diogel a chynnes mae’r bobl sy’n gwneud hynny yn bosibl. Mae’r sesiwn yma’n datgelu dealltwriaeth rymus o 52 o gyfweliadau manwl gyda staff ledled Cymru, gan ddangos ymroddiad, gwytnwch a thrugaredd gweithlu Gofal a thrwsio. O weithwyr achos a gweinyddwyr i dasgmyn a swyddogion technegol, clywch sut mae staff yn meithrin hyder ac yn cydweithio dan bwyso i gyflwyno cymorth sy’n wirioneddol yn newid bywydau.

Troseddu Seiber – Problem Gynyddol yng Nghymru

Kate Lloyd, Cynghorydd Diogelwch Seiber, Uned Ranbarthol Troseddu Cyfundrefnol TARIAN

Bydd y cyflwyniad rhyngweithiol hwn yn llywio staff a gwirfoddolwyr drwy hanfodion cadw’n ddiogel mewn byd cynyddol ddigidol. Byddwn yn ymchwilio’r bygythiadau seiber mwyaf cyffredin sy’n wynebu sefydliadau ac unigolion gan ddefnyddio enghreifftiau o fywyd go iawn a rhoi cyngor y gellir ei roi ar waith i helpu adeiladu gwytnwch seiber. Bydd y sesiwn yn cynnwys ystafell ddianc seiber ryngweithiol! Bydd angen i chi ddatrys codau a phosau i brofi bod eich rheolwr yn ddieuog tra’n datgelu’r gweithredu trosedd seiber tu ôl i’r digwyddiad.

Power BI – Dyfodol ein Data

Rob Green, Care & Repair Cymru, Rheolwr Prosiect Cronfa Ddata and Richard Thomas, Gofal a Thrwsio, Caerdydd a’r Fro, Prif Swyddog

Bydd y gweithdy hwn yn ymchwilio datblygiad ac ymestyn Power BI o fewn Gofal a Thrwsio, gan ddangos sut y gall data gefnogi cyflenwi gwasanaeth, cynllunio strategol ac atebolrwydd. Byddwn yn ymchwilio sut mae Gofal a Thrwsio Caerdydd a’r Fro wedi sefydlu Power B1 yn llawn yn eu gwaith bob dydd ac yn trafod proses ddatblyg Power B1 sy’n digwydd yng Ngofal a Thrwsio Cwm Taf. Byddwn yn edrych sut y caiff y model hwn ei gyflwyno ar draws holl Asiantaethau Gofal a Thrwsio – gan gynyddu galluedd a hyder staff, tra’n meithrin diwylliant o gydweithredu.

Siaradwyr y Gynhadledd

Jayne Bryant AS

Cafodd Jayne Bryant ei geni a'i magu yng Nghasnewydd, ac etholwyd yn Aelod Cynulliad Gorllewin Casnewydd yn 2016. Cafodd ei phenodi yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y Bumed Senedd, ac roedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Wedi’i hail-ethol yn 2021, enwebwyd Jayne i gadeirio'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Chweched Senedd, a bu hefyd yn Is-gadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol ar Ddementia ac Undod Rhwng Cenedlaethau. Trwy gydol ei bywyd gwaith mae Jayne wedi ceisio helpu i eirioli dros bobl a'u cefnogi ac mae'n arbennig o angerddol am annog pobl ifanc i fod yn weithgar ac ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Penodwyd Jayne yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ar 17 Mehefin 2024.

Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Penodwyd Rhian yn Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015, gan ddarparu cyngor annibynnol ac yn llunio a llywio datblygiadau deddfwriaethol, strategaeth a pholisi, yn ogystal â sbarduno gwelliannau o ran atal, amddiffyn a chefnogi pawb y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt. Cyn iddi ymgymryd â’i swydd fel Comisiynydd, cafodd Rhian ei chydnabod fel Cadeirydd Arbenigol yr Adolygiadau Dynladdiadau Domestig sy’n ymwneud â phobl hŷn. Bu hefyd yn gweithio’n agos gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector ar hyd a lled Cymru fel ymgynghorydd annibynnol, yn darparu amrywiaeth eang o brosiectau ac ymchwil ar eu rhan er mwyn gwella polisi ac ymarfer.

Lindsay Cordery-Bruce

Daw Lindsay o Middlesbrough yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn wreiddiol, ond daeth i Gymru yn 2011. Yn dilyn gyrfa hir, gydag arbenigedd penodol yn y maes camddefnyddio sylweddau, mae Lindsay wedi treulio’r chwe blynedd diwethaf fel Prif Weithredwr The Wallich yn mynd i’r afael â digartrefedd. Dechreuodd Lindsay ei gyrfa fel gwirfoddolwr ar ôl bod yn ddigartref. Treuliodd beth amser yn y Gwasanaeth Prawf yn darparu rhaglenni gwaith grŵp mewn carchardai a lleoliadau cymunedol cyn sefydlu’r gwasanaeth atgyfeirio cyntaf ar gyfer pobl sy’n cael eu harestio am droseddau’n ymwneud ag alcohol yn y DU. Mae Lindsay hefyd wedi gweithio mewn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, yn comisiynu ac yn monitro gwasanaethau. Mae ei gyrfa wedi ei harwain at y pwynt hwn: Prif Weithredwr profiadol gyda doethuriaeth broffesiynol mewn Seicoleg Gymhwysol. Ar gyfer ei thraethawd ymchwil, datblygodd Lindsay raglen ar gyfer mynd i’r afael â dibyniaeth drwy gadw gwenyn. Gwasanaethodd Lindsay ar fwrdd CGGC am wyth mlynedd cyn camu i lawr ym mis Tachwedd 2023. Camodd i lawr yn ddiweddar o fwrdd Tai Pawb, yn hyrwyddo cydraddoldeb mewn lleoliadau tai. Mae’n parhau i fod ar Fwrdd Cynnal Cymru/Sustain Wales, yn hyrwyddo datblygiad cynaliadwy yng Nghymru. Mae Lindsay yn gwirfoddoli gyda Llinell Gymorth Draenogod, yn gweithio ar y llinell ffôn a helpu i adsefydlu draenogod. Mae gan Lindsay fywyd dedwydd â’i phriod, Lisa, dau lysblentyn, tri chi, pedair iâr a thua 200,000 o wenyn. Yn ei hamser hamdden mae hi’n codi pwysau, yn mwynhau bocsio ac yn mwynhau gwneud gwaith DIY.

Gwynne Jones

Roedd Gwynne wedi gweithio mewn tai cymdeithasol am 33 mlynedd hyd at fis Gorffennaf 2020. Mae’n falch i fod yn Gadeirydd cyfredol Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych a bu ganddo gysylltiadau gyda’r mudiad Gofal a Thrwsio yng Nghymru ers 1996. Ar ôl gweithio i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn Lloegr a Chymru, roedd ei swydd ddiwethaf gyda Cartrefi Conwy fel Rheolwr Gyfarwyddwr. Mae’n Gymrawd y Sefydliad Tai Siartredig.

Siaradwyr Panel

Stuart Fitzgerald

Mae Stuart yn gyfrifol am raglenni cyfalaf mawr yn y gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio, yn cynnwys y Grant Tai Cymdeithasol a’r ymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel ar gyfer rhent cymdeithasol, y Gronfa Tai gyda Gofal yn cefnogi datblygu tai arloesol i ddiwallu anghenion gofal a’r Rhaglen Gofal Llety Trosiannol. Yn flaenorol roedd Stuart yn Ddirprwy Brif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Chris Jones

Bu Chris yn ymwneud â Gofal a Thrwsio am 34 mlynedd fel aelod Bwrdd ac mewn swyddi gweithredol, ac fel Prif Weithredwr Care & Repair Cymru ers 2010. Bu’n gweithio i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr am 21 mlynedd rhwng 1989 a 2010, mewn swyddi cyflenwi gwasanaeth tai, datblygu polisi ac fel arweinydd. Mae Chris yn angerddol am Gofal a Thrwsio a’r weledigaeth o Gymru lle gall pob person hŷn fyw’n annibynnol mewn cartrefi cynnes, diogel a chyfleus. Mae’n benderfynol i barhau i adeiladu ar enw da Gofal a Thrwsio fel sefydliad sy’n helpu i gyflenwi gwasanaethau tai, iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi integreiddio’n well ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

Richard Thomas

Richard Thomas yw Prif Swyddog Gofal a Thrwsio Caerdydd a’r Fro. Mae wedi gweithio yn y sector tai yng Nghymru ers dros 30 mlynedd ac mae ganddo ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad o lywodraethiant, cyllid, strategaeth, cydymffurfiaeth, dadansoddi data a datblygu busnes. Mae gan Richard BA (Anrh), MSc (Econ), PGDip Tai a Diploma Lefel 7 mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth. Mae’n Aelod Siartredig o’r Sefydliad Tai Siartredig ac yn Rheolwr Siartredig y Sefydliad Rheoli Siartredig. Yn ei amser hamdden mae Richard yn mwynhau cerdded, rhedeg, darllen a choginio.

Arddangoswyr y Gynhadledd

AKW

Fel arweinwyr marchnad y Deyrnas Unedig mewn datrysiadau ystafelloedd ymolchi a cheginau hygyrch, rydym yn falch i ymffrostio mewn portffolio o dros 5,500 o gynnyrch a gafodd eu dylunio’n ddeallus gan ein tîm o beirianwyr mewnol arbenigol i’ch helpu i greu gofodau cynhwysol, eto hardd sy’n gwella bywyd ar gyfer pobl sy’n byw gyda llai o symudedd, dementia neu nam ar eu golwg.

Altro

Pan ddaw i dai cymdeithasol ac addasu cartrefi, mae’r ffordd mae cartref yn edrych yr un mor bwysig â sut mae’n gweithredu. Mae angen i ardaloedd byw gael teimlad o steil, angen i ardaloedd cymunol fod yn groesawgar, sensitif i sŵn a rhwydd eu glanhau ac angen i geginau ac ystafelloedd ymolchi gydymffurfio â’r safonau uchaf o ddiogelwch a hylendid. Bydd dewis Altro o loriau a waliau cyfoes gyda lliwiau traddodiadol, gwahanol weadau a gorffenion – yn cynnwys pren – yn rhoi popeth rydych ei angen i gwblhau adeilad newydd neu uwchraddio llety a chyfleusterau presennol.

Alzheimer's Society

Gwybodaeth am golled cof, dementia, ein gwasanaethau a chymorth.

Bellman & Symfon

Mae Bellman & Symfon yn creu dyfeisiau gwrando a rhybudd cynorthwyol ar gyfer unigolion byddar neu drwm eu clyw. Mae cynnyrch yn cynnwys gwrandawyr personol a’r system Rhybudd Ymweliad, sy’n hysbysu defnyddwyr am synau pwysig fel clychau drws, larymau mwg, babanod yn llefain a galwadau ffôn drwy ddirgryniadau, goleuadau’n fflachio a synau uchel. Cynlluniwyd y datrysiadau hyn i gynyddu diogelwch, annibyniaeth a hygyrchedd mewn bywyd bob dydd.

Easiaccess

Mae Easiaccess yn gynhyrchydd, cyflenwr a gosodwr blaenllaw ar gyfer rampiau modwlar a stepiau. Cynigiwn wasanaeth cyflenwi a gosod ledled y wlad. Mae gân ein systemau metal ddyluniad y gellir ei addasu’n llawn, gan roi hyblygrwydd i weddu unrhyw adeilad a gofod. Darparwn arolygon a dyfynbrisiau yn rhad ac am ddim, a ddilynir gyda darluniau 2D a 3D gan ein tîm profiadol o siaradwyr gyda gwybodaeth helaeth o’r rheoliadau a’r gofynion diweddaraf fel y gallwch gael tawelwch meddwl y bydd eich datrysiadau mynediad yn addas i’r diben ac yn cyflawni’r holl ofynion cyfreithiol.

Energy Saving Trust

Mae cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor a chymorth diduedd yn rhad ac am ddim i bob aelwyd yng Nghymru. Os yw cwsmer yn gymwys, mae Nyth hefyd yn cynnig pecyn o welliannau effeithiolrwydd ynni cartref i helpu gostwng biliau ynni a gwella iechyd a llesiant, tebyg i insiwleiddio, pwmp gwres, paneli solar neu wres canolog.

Hearing Products International Limited

Mae Hearing Products International yn darparu technoleg gynorthwyol i unigolion gyda cholled clyw a cholled synhwyraidd tebyg i wrandawyr personol, system cylch T-Coil, gwrandawyr teledu 2 mewn 1, canfyddwyr mwg gydag offer fflachio a dirgrynu, systemau rhybudd drws gyda gwthio cloch, signalydd ffôn, synhwyrydd sain, galwr dirgrynu a phad gwely dirgrynu a llawer mwy.

NEA

National Energy Action (NEA) yw’r elusen genedlaethol sy’n gweithio i roi diwedd ar dlodi tanwydd. Mae NEA yn gweithio ar draws Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon i sicrhau y gall pawb fforddio byw mewn cartref diogel, cynnes ac iach. Mae cartrefi oer eisoes yn niweidio bywydau’r aelwydydd tlotaf ar draws y Deyrnas Unedig. Rydym yn cydweithio gydag ymarferwyr rheng flaen, cwmnïau, rheoleiddiwr a’r llywodraeth i helpu cwsmeriaid mewn amgylchiadau bregus i wneud newidiadau cadarnhaol.

Older People's Commissioner for Wales

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais a phencampwr annibynnol dros bobl hŷn ledled Cymru. Rôl y Comisiynydd yw hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, herio gwahaniaethu, annog arfer gorau ac adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

Orbits IT

Cymorth Technoleg Gwybodaeth Seiber-ddiogelwch Gwasanaethau Cwmwl

Qualia Law

Cyngor cyfreithiol a diogelu ariannol ar gyfer pobl fregus neu niwroamrywiol. Mae ein gwasanaethau proffesiynol Dirprwy y Llys Gwarchod ac Atwrneiaeth yn helpu i ddiogelu eiddo a chyllid pobl sydd heb alluedd neu na all reoli eu materion ariannol eu hunain. Caiff pob Dirprwyaeth neu Atwrneiaeth eu rheoli gan Gyfreithiwr profiadol ac arbenigol. Fodd bynnag, yn wahanol i gwmni cyfraith traddodiadol, nid ein nod yw cynhyrchu elw ond gweithredu’n llwyr er budd gorau ein cleientiaid. Rydym yn darparu cyngor a chymorth di-duedd a rhad ac am ddim i deuluoedd, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol a chyrff eraill y trydydd sector. Rydym yn helpu i lywio’r gwahanol opsiynau sydd ar gael i bobl fregus neu analluog er mwyn cynyddu annibyniaeth i’r eithaf a sicrhau’r ansawdd bywyd gorau.

Steer IT

Darparu gwasanaethau a chymorth TG wedi’u rheoli ar gyfer busnesau ledled Cymru a Gorllewin Lloegr.

Solon Security

Caiff Solon ei gydnabod fel prif gyflenwr y Deyrnas Unedig o gynnyrch diogelwch cymunedol. Ar ôl gweithio gydag amrywiaeth o gynghorau, cymdeithasau tai a darparwyr gofal am bron 30 mlynedd, defnyddiwn yr ymgyfraniad hwn i gyflenwi datrysiadau sy’n arwain y farchnad.

SWFRS

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eisiau i breswylwyr deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi. Mae hyn yn cynnwys mwy na’r adeilad yr ydych yn byw ynddo. Rydym yn cymryd dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i sicrhau eich bod mor ddiogel ag y gallwch fod yn eich cartref eich hun. Yn ystod yr ymweliad gallwn edrych ar y cartref, yr unigolyn a’u hymddygiad. Mae’r pynciau a gynhwyswn yn cynnwys: diogelwch ceginau, diogelwch trydanol, ysmygu, tanau cludadwy ac agored, trefn amser gwely, llwybrau dianc, celcian, cwympiadau ac atal troseddu, a chanfod tanau.

Tai Pawb

Mae Tai Pawb yn gweithio i hybu cydraddoldeb mewn tai yng Nghymru. Dychmygwn Gymru lle mae gan bawb hawl i gartref da. Lluniwn y newid drwy ddylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau ar y lefel uchaf. Gwnawn y newid drwy gefnogi ein haelodau i hyrwyddo cydraddoldeb ar lawr gwlad. Byddwn y newid drwy gyflawni yn ein sefydliad.

The Key Safe Company

The Key Safe Company yw prif ddarparydd y Deyrnas Unedig o ddatrysiadau storio allwedd diogel, gan helpu miliynau i rannu mynediad diogel i eiddo ers 1996. Yn ddosbarthwyr gyda chymeradwyaeth ISO, fe wnaethom weithio gydag arbenigwyr diogelwch i reoleiddio’r diwydiant gan ddatblygu y safon a ffafrir gan yr heddlu. Cafodd ein marc blaengar Tamo™ ei ardystio gan LPCB fel y sêff allweddi mecanyddol mwyaf diogel, gan osod y safon yn ei ddosbarth.

Triton

Mae Triton yn falch i gael eu hadnabod fel ‘Cwmni Cawod y DU’, ar ôl bod yn cynhyrchu cynlluniau cawod a wnaed gan beirianwyr arbenigol ac arloesol ers 1975. Bu Triton yn flaenllaw mewn darparu cawodydd effeithiol o ran ynni i gwsmeriaid am 50 mlynedd. Mae Triton ar y trywydd i gyflawni statws SBT Carbon Sero Net erbyn 2035. Gyda chostau mewn cynnydd byw a galw cynyddol am adnoddau naturiol, mae pob diferyn wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth wrth ddewis cyfarpar gwresogi dŵr effeithiol o ran ynni ar gyfer y cartref.

Wales and West Utilities

Rydym yn dosbarthu nwy i gartrefi a busnesau ar y brif rwydwaith nwy, gan gynnig cymorth i bobl mewn sefyllfaoedd bregus sy’n dioddef colli cyflenwad nwy. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth argyfwng nwy 24/7 365 diwrnod y flwyddyn ar gyfer pobl sy’n arogli nwy neu sy’n amau bod carbon monocsid yn cael ei ryddhau. Cynigiwn osod falf clo ffwrn nwy am ddim ar gyfer ffyrnau sydd â phibelli addas i gefnogi’r rhai sy’n gofalu am bobl gyda dementia.

Weboss

Gwasanaethau rhithiol cyllid/cyflogres/cadw llyfrau/gweinyddu swyddfa. Gan roi cymorth rhithiol i fusnesau bach a chanolig, mae ein Cynorthwywyr Rhithiol yn helpu i gefnogi busnesau mewn unrhyw leoliad daearyddol. Mae Cynorthwyydd Rhithiol yn gynorthwyydd busnes proffesiynol (cynorthwyydd personol) sy’n gweithio o bell i gefnogi busnesau a gweithwyr proffesiynol gydag amrywiaeth o dasgau a phrosiectau.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.