Fe wnaeth Gofal a Thrwsio gyflenwi dros 20,000 o addasiadau tai y llynedd. Mae anghenion pobl yn newid wrth iddynt heneiddio, ac mae’n rhaid i’w cartrefi newid hefyd.
Addasu cartrefi yw un o’r ffyrdd rhwyddaf a mwyaf effeithlon o ran cost o sicrhau y gall pobl hŷn fyw gydag urddas ac yn annibynnol yn eu cartref eu hunain cyhyd ag y dewisant. Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio, gan olygu fod addasiadau tai yn dod hyd yn oed yn bwysicach i ostwng damweiniau yn y cartref ac atal pobl rhag gorfod mynd i ysbyty.
Mae Gofal a Thrwsio yn cyflwyno’r Rhaglen Addasiadau Brys ledled Cymru i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain. Heblaw am y Rhaglen Addasiadau Brys, mae’r system bresennol o gyflenwi addasiadau yng Nghymru yn amrywio yn dibynnu os yw’r person hŷn yn berchen eu cartref eu hunain a ble yng Nghymru y maent yn byw.
Credwn y dylai pawb yng Nghymru gael cyfle cyfartal i gael mynediad i’r cymorth maent ei angen i wneud eu cartref yn hygyrch lle bynnag yng Nghymru maent yn byw.