Mae tri chwarter marwolaethau yn gysylltiedig ag oerfel gormodol yng Nghymru yn bobl 75 oed a throsodd.

Credwn y dylai pobl hŷn gael cymorth wedi ei dargedu i sicrhau nad oes unrhyw aelwydydd hŷn yn troi eu gwres i ffwrdd. Dros y tymor hirach, rydym yn galw am ddiwygio’r farchnad ynni a chynllun i ddatgarboneiddio cartrefi Cymru i’w gwneud yn fwy effeithiol o ran tanwydd ac ynni.

Mae prosiect Hynach Nid Oerach Gofal a Thrwsio yn ymroddedig i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ymysg pobl hŷn yng Nghymru. Nod y gwasanaeth yw gwella iechyd a lles pobl hŷn drwy fesurau arbed ynni, cynyddu incwm aelwydydd a chyngor ar ynni. Wrth wneud hynny, mae hefyd yn helpu i ostwng y pwysau ar GIG Cymru.

Cartrefi sy’n Gollwng a Diffyg Cymorth

Mae ein hadroddiad newydd yn rhoi sylw i effeithiolrwydd ynni gwael cartrefi pobl hŷn a’r cymorth cyfyngedig sydd ar gael y gaeaf hwn.

Dysgu mwy

POBL HŶN MEWN TLODI GAEAF 2023-24

Gwelsom fod ein cleientiaid ar gyfartaledd yn gwario 19% o incwm eu haelwyd ar eu biliau cyfleustod. 

Darllen yr adroddiad

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.