Credwn y dylai pob person hŷn fedru byw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y dymunant, ac mae hyn yn golygu cael mynediad teg i’r gefnogaeth maent ei hangen i wneud hynny.

Wrth i lawer o’r byd symud ar-lein, gwyddom nad yw ychydig dros hanner y bobl 75 oed a throsodd yng Nghymru yn defnyddio’r rhyngrwyd o gwbl. Gwnawn yn siŵr fod ein holl wybodaeth ar gael mewn ffurf hygyrch a galwn ar gyrff cyhoeddus i sicrhau fod gan bobl hŷn hawl i gael mynediad i wasanaethau mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion, gan ddeall efallai nad datrysiad digidol yw’r dull mwyaf addas.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.