Mae Care & Repair Cymru, mewn partneriaeth gyda Electrical Safety First, wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn ymchwilio’r effaith y gall gwella gwaith trydan ei gael ar fywydau pobl hŷn yng Nghymru.

Mae’r adroddiad, Home Safety: How Improving Electrics is Changing Lives in Wales, yn dangos effeithiau trawsnewidiol y Cynllun Grant Gwella Trydanol, cronfa unigryw a gynlluniwyd i fynd i’r afael â gwaith trydan peryglus mewn cartrefi pobl hŷn ledled Cymru.
Mae diogelwch trydan yn ddarn hanfodol o’r pos, ond yn un a gaiff ei ddiystyru yn aml, wrth sicrhau y gall pobl hŷn fyw’n ddiogel, annibynnol a gydag urddas yn eu cartrefi eu hunain.

Gan gydweithio, mae Gofal a Thrwsio ac Electrical Safety First wedi llunio Grant Gwella Trydanol neilltuol sydd ar gael i gleientiaid Gofal a Thrwsio heb unrhyw fodd i dalu am wella cyflwr a diogelwch y gwaith trydan yn eu cartrefi.

Roedd y cynllun yn cynnig grantiau wedi eu targedu o hyd at £1,000 i gefnogi pobl gyda gwaith trwsio trydanol neu uwchraddio brys. Gallodd gweithwyr achos Gofal a Thrwsio gael mynediad cyflym i’r gronfa i ddarparu gwaith hanfodol tebyg i ailweirio, gosod socedi newydd yn lle rhai peryglus, trwsio offer twymo dŵr a gwella goleuadau – gan yn aml ddatgelu cyflyrau peryglus nad oedd wedi cael sylw am flynyddoedd.

Mae’r adroddiad newydd yn asesu effaith y cynllun ac yn ystyried sut y gall gwaith trydan da gefnogi pobl hŷn yng Nghymru i gael y gofal y mae ganddynt hawl iddo yn nes adre, gan gynnal ansawdd bywyd da a gostwng neu oedi yr angen am ofal a chymorth tymor hirach.

Stori Mr Williams – help gan y Grant Gwella Trydanol

Mae Mr Williams yn byw ar ben ei hun yn y cartref y mae’n berchen arno ac mae ganddo ganser y prostad, cymhlethdodau gydag anaf i’w asgwrn cefn a phryder. Cysylltodd â Gofal a Thrwsio i ofyn am help gyda nifer o broblemau, yn cynnwys boeler gwallus a ffenestr oedd wedi torri yn y gegin gan achosi llawer o ddrafft.

Yn ystod yr ymweliad gwelodd gweithiwr achos Gofal a Thrwsio fod Mr Williams yn cael anhawster yn gwneud tasgau bob dydd tebyg i olchi dillad a choginio gan fod ei beiriant golchi a ffwrn yn tripio’r system drydan yn ei gegin. Roedd hefyd nifer o socedi heb fod yn gweithio.
Defnyddiodd y gweithiwr achos yr arian oedd ar gael i drwsio a rhoi gwasanaeth i’w foeler a rhoi ffenestr newydd yn y gegin i wella effeithiolrwydd thermol a chynhesrwydd y cartref. Defnyddiwyd y cynllun Grant Gwella Trydanol i drwsio’r gwaith trydan yn y gegin a gosod mwy o socedi trydan i’w gwneud yn fwy hygyrch. Gall Mr Williams yn awr olchi ei ddillad a choginio heb boeni, yn ogystal â defnyddio teclynnau ychwanegol, yn cynnwys ei ficrodon.

Darllenwch fwy am y cynllun grant, ein canfyddiadau allweddol a’n argymhellion polisi yn yr adroddiad llawn.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.