Manyleb Swydd

Asiantaeth: Care & Repair Cymru

Lleoliad: Caerdydd

Cyflog: £34,180

Oriau: Llawn-amser, 35 awr yr wythnos

Dyddiad cau: 06/06/2025

Am y Swydd

Prif Ddiben

Mae’r Tîm Polisi a Dealltwriaeth yn cyflawni nodau ac amcanion polisi ac ymchwil CRC, casglu data i werthuso gwasanaethau ac effaith Gofal a Thrwsio a gweithio gydag Asiantaethau Gofal a Thrwsio ar rannu arfer da, arloesedd a modelau darpariaeth gwasanaeth gorau.

 

Yn seiliedig yn y Tîm Polisi a Dealltwriaeth, bydd y swydd hon yn:

  • rhoi arbenigedd mewn modelau arfer gorau ar gyfer addasiadau tai a gwasanaethau eraill.
  • cyfrannu at werthuso gwasanaeth Gofal a Thrwsio, cymorth a datblygu arfer gorau, dylanwadu ymchwil a pholisi, a helpu i gynnal proffil cryf ymysg gwneuthurwyr polisi, partneriaid a rhanddeiliaid.

Tasgau Allweddol       

  • Ymgymryd â gwaith ymchwil, polisi a datblygu arfer da i wella gwasanaethau addasu tai ar draws Gofal a Thrwsio, yn cynnwys y Rhaglen Addasiadau Brys, Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, Enable a rhaglenni addasu tai eraill.

 

  • Tynnu sylw at anghenion tai pobl hŷn, bylchau gwasanaeth a datrysiadau gwasanaeth addasu tai priodol i ateb yr anghenion hynny, drwy ymchwil dulliau cymysg i gynnwys ymchwil sylfaenol seiliedig ar ddesg, dealltwriaeth cleientiaid a dadansoddi data o gronfa ddata Gofal a Thrwsio. Darparu adroddiadau, gwybodaeth, erthyglau a diweddariadau rheolaidd ar y canfyddiadau hynny.

 

  • Monitro a dadansoddi’r newid yn amgylchedd polisi Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn ehangach sy’n berthnasol i bobl hŷn ac addasiadau tai a’u defnydd a’u heffaith ar draws tai, iechyd a gofal cymdeithasol.

 

  • Gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Polisi a Dealltwriaeth, Care & Repair Cymru yn ehangach ac Asiantaethau Gofal a Thrwsio i ddynodi arfer gorau, technoleg newydd, modelau effeithlon ar gyfer darparu gwasanaeth ac arloesedd ar draws ein holl wasanaethau.

 

  • Datblygu canllawiau arfer gorau, rhwydweithiau staff addasu tai a dulliau eraill o rannu ac atgynhyrchu arfer da ar draws Cymru.

 

  • Paratoi adroddiadau a phapurau gwybodaeth ysgrifenedig ar gyfer uwch reolwyr CRC, Bwrdd Ymddiriedolwyr CRC, Asiantaethau Gofal a Thrwsio a rhanddeiliaid yn ehangach, i sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth a’u diweddaru ar ganfyddiadau gwella gwasanaethau, argymhellion a chynigion i atgynhyrchu ar draws Gofal a Thrwsio.

 

  • Cysylltu gyda thîm Iechyd a thai Llywodraeth Cymru i rannu gwybodaeth y gallant fod ei hangen i fwydo i unrhyw adolygiadau ar addasiadau sy’n mynd rhagddynt o bryd i’w gilydd.

 

  • Mynychu a chynrychioli CRC mewn digwyddiadau polisi, ymchwil a gwella gwasanaeth yn cynnwys grwpiau trawsbleidiol, cyfarfodydd cynghrair trydydd sector, ymholiadau, seminarau, gweithdai a chynadleddau.

 

  • Dynodi a datblygu perthynas waith dda a phartneriaethau strategol gyda sefydliadau, rhwydweithiau ac unigolion perthnasol yn ymwneud â gwasanaethau addasu tai ar draws Gofal a Thrwsio, tai, iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector.

 

  • Paratoi ymatebion Care & Repair Cymru i bolisi, deddfwriaeth ac ymgynghoriadau eraill gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan weithio’n agos gydag Asiantaethau Gofal a Thrwsio i sicrhau y caiff materion ac effeithiau gwasanaeth allweddol ar bobl hŷn eu cynnwys.

 

  • Darparu cynnwys clir, cryno a chyfoes yn ymwneud â gwaith y swydd hon ar gyfer cyhoeddiadau mewnol ac allanol yn cynnwys y wefan, cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau print, papurau gwybodaeth, taflenni, dalenni ffeithiau ac yn y blaen.

Sut i Wneud Cais

Lawrlwytho ein ffurflen cais am swydd.

Ar ôl eu llenwi, dylid anfon pob cais at:
adrian.lister@careandrepair.org.uk

 

Adnoddau

Pecyn Swydd

Ffurflen Gais am Swydd

Cyfleoedd Swydd eraill

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.