Mae Hynach Nid Oerach yn wasanaeth newydd gan Gofal a Thrwsio sy’n cefnogi pobl hŷn i gadw eu cartrefi yn gynnes a biliau ynni yn is.

Mae Swyddogion Ynni Cartref yn gweithio ledled Cymru fel rhan o’r gwasanaeth gan ymweld ac asesu cartrefi am ddim. Maent yn cynnig cyngor arbenigol a gallant eich helpu i ganfod cyllid os oes angen gwaith trwsio neu welliannau i gadw eich cartref yn gynnes.

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru, bod dros 60 oed ac yn berchen eich cartref eich hun neu yn rhentu’n breifat.

Sut y gall y gwasanaeth eich helpu:

  • Ymweliad ac asesiad o’ch cartref am ddim
  • Cyngor am ddim ar sut i wella effeithiolrwydd ynni eich cartref.
  • Canllawiau ar gyfer rhai sy’n ei chael trafferthion gyda biliau.
  • Cymorth i gael mynediad i’r Rhaglen Cartrefi Cynnes.
  • Cymorth i gael y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
  • Help i wneud cais am grantiau a all gadw eich cartref yn gynnes.

Gofynnwch am ymweliad am ddim gan Swyddog Ynni Cartref

Mae ein Swyddogion Ynni Cartref yn barod ac yn aros i ymweld â’ch cartref a’ch cefnogi gyda’ch anghenion ynni cartref. Defnyddiwch y ffurflen isod i wneud cais am ymweliad cartref am ddim.

Help gan Hynach Nid Oerach

Llenwch y ffurflen hon a byddwn yn ceisio eich ffonio o fewn tair wythnos i drafod eich anghenion. Gofynnir i chi nodi fod y rhestr aros mewn rhai ardaloedd yn hirach nag mewn ardaloedd eraill.





    Drwy lenwi’r ffurflen hon rydych yn cytuno i’ch neges gael ei hanfon drwy e-bost at eich Gofal a Thrwsio lleol. Rydym yn addo cadw eich manylion yn ddiogel yn unol â’n Polisi Preifatrwydd. Mae hyn yn golygu mai dim ond Gofal a Thrwsio fydd yn defnyddio eich manylion ac na chânt byth eu trosglwyddo i gyrff eraill ar gyfer dibenion marchnata.

    Fyddai’n well gennych chi ein ffonio?

    Os byddai’n well gennych ein ffonio i drafod sut y gallwn eich helpu, yna bydd angen i chi ffonio eich asiantaeth leol Gofal a Thrwsio. Defnyddiwch y botwm Cysylltu â Ni ar waelod isaf y dudalen yma.

    “Fe wnes siarad gyda rhywun dros y ffôn ac o fewn pedair wythnos roedd gen i foeler newydd wedi’i gosod. Wnes i ddim meddwl y byddai cyn gynted, roeddwn yn meddwl y byddai’n rhaid i mi aros m fisoedd a misoedd. Mae’n wych. Rwy’n dal i binsio fy hun.” – Maggie, Abertawe

    Darllen llyfryn cyngor am ddim Hynach Nid Oerach

    Wedi’i gyhoeddi ar gyfer lansiad gwasanaeth newydd Hynach Nid Oerach, mae’r llyfryn yn llawn gwybodaeth am gadw eich cartref yn gynnes a’ch biliau yn is.

    Darllen nawr

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.