Mae Care & Repair Cymru wedi lansio Strategaeth 5-mlynedd uchelgeisiol, yn tanlinellu eu hymroddiad i helpu pobl hŷn a llacio’r pwysau ar ofalwyr a GIG Cymru.

Daw’r strategaeth newydd ar adeg dyngedfennol wrth i’r sefydliad ymateb i anghenion cynyddol poblogaeth sy’n heneiddio, yng nghanol heriau argyfwng costau byw ac amserau aros ysbyty.

Mae’r elusen yn darparu gwasanaethau ledled Cymru sy’n cynnwys trwsio ac addasu cartrefi, yn ogystal â chefnogi pobl i fynd gartref o’r ysbyty drwy eu gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach.

Lansiwyd strategaeth newydd Gofal a Thrwsio gan Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol, gydag ymweliad i Gillian Arnold, rhywun sydd wedi profi gwasanaethau Gofal a Thrwsio drosti ei hun.

Cafodd Gillian, sy’n 64 oed, strôc ym mis Ionawr 2024, gan ei gadael gyda heriau i’w lleferydd a’i gallu i symud. Nid oedd cael ei rhyddhau o ysbyty ac i’w bwthyn 100 oed bach ger Pont-y-pŵl yn syml, ond gallodd Gofal a Thrwsio wneud y newidiadau oedd eu hangen.

Dywedodd Gillian Arnold, cleient Gofal a Thrwsio:

“Cefais strôc ar 7 Ionawr 2024 a bûm yn yr ysbyty am dri mis. Roeddwn dan ofal therapydd galwedigaethol pan oeddwn yn yr ysbyty ac roeddent eisiau cael lluniau o fy nhŷ, felly cymerodd fy merched rai fel y gallai weld. Dywedodd na fedrwn fynd gartref nes fod gennyf ganllawiau ar  y grisiau ac ar du blaen fy nhŷ. Felly fe gawson nhw Gofal a Thrwsio i siarad gyda fy merched.

“Roedd popeth wedi’i wneud erbyn i mi fynd gartref! Roedd gen i ganllawiau yn yr ardd, ar y grisiau ac wrth ymyl y drws. Cefais godwyr ar fy soffa a chafodd sedd gawod ei gosod yn yr ystafell ymolchi. Mae gen i hefyd sêff allwedd a golau diogelwch wrth ymyl fy nrws blaen.

“Fe gafodd Gofal a Thrwsio fi gartref! Y canlyniad yw mod i’n awr yn medru byw yn y tŷ.”

Dywedodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol:

“Roedd yn wych cwrdd gyda Gillian i glywed am ei phrofiad a gweld drosof fy hun sut mae Gofal a Thrwsio wedi ei helpu.

“Mae’r gwasanaethau hanfodol yma’n helpu i wneud cartrefi yn fwy diogel i helpu pobl i fynd gartref ynghynt, a hefyd yn dileu’r straen a’r pryder sy’n gysylltiedig gydag addasu eich cartref.

“Gall gwasanaethau llai, sydd wedi eu targedu yn fwy fel hyn gael effeithiau go iawn yn ein cymunedau, a hoffwn ddiolch i staff Gofal a Thrwsio am eu gwaith caled a’u hymroddiad.

“Mae hi mor bwysig ein bod yn parhau i gefnogi mwy o bobl i fyw’n annibynnol a diogel yn eu cartrefi a heb ofn baglu, syrthio neu orfod mynd yn ôl i’r ysbyty.”

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru:

“Rydym yn ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet newydd am ei chefnogaeth fel y gallwn barhau i dyfu ein gwaith o wneud yn siŵr fod gan bobl hŷn yng Nghymru gartrefi addas ar gyfer eu hanghenion.

“Daw’r strategaeth bum mlynedd newydd ar adeg tyngedfennol wrth i ni ymateb i anghenion cynyddol poblogaeth sy’n heneiddio. Mae’n tanlinellu ein hymroddiad parhaus i les pobl hŷn, yn cynnwys derbyn i ysbyty, mynd i’r afael â thlodi tanwydd a llacio’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

“Rydym yn cefnogi tua 40,000 o aelwydydd bob blwyddyn, gan drefnu gwaith addasu a gwaith trwsio sy’n gwella iechyd a lles. Mae’r newidiadau hyn i gartrefi yn atal damweiniau a salwch ac yn cadw pobl hŷn ac anabl allan o ysbyty.”

 

Caiff pwysigrwydd gwaith Gofal a Thrwsio ei gydnabod yn gynyddol am wella canlyniadau iechyd a chefnogi byw annibynnol Yn 2023 yn unig, arbedodd Gofal a Thrwsio tua £24m i GIG Cymru drwy ostwng y nifer y bu’n rhaid iddynt fynd i ysbyty a’r galw ar y gwasanaeth ambiwlans.

Mae’r strategaeth newydd yn cynnwys ymroddiad i ehangu gwasanaethau ar dlodi tanwydd a datgarboneiddio yng Nghymru. Mae prisiau ynni uchel wedi arwain at i lawer o bobl hŷn gwtogi eu defnydd o ynni. Roedd un o gleientiaid Gofal a Thrwsio yn gwario 62% o’i holl incwm ar filiau ynni a dŵr. Mewn ymatebodd i hyn, lansiodd Gofal a Thrwsio wasanaeth tlodi tanwydd dan yr enw Hynach Nid Oerach yn ddiweddar, sy’n anelu i gadw cartrefi’n gynnes a gostwng biliau ynni pobl hŷn a bregus.

Yn ganolog i’r strategaeth newydd mae ymroddiad di-ildio Gofal a Thrwsio i sicrhau y caiff pobl hŷn eu clywed ac y caiff eu hanghenion tai eu deall. Mae adborth yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer llunio gwasanaethau ond hefyd wrth adrodd yn ôl i gyllidwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau realaeth yr hyn mae pobl yng Nghymru yn ei brofi.

Dywedodd un o gleientiaid Gofal a Thrwsio o Ben-y-bont ar Ogwr yn ei hadborth yn ddiweddar: “Gall trin y dirywiad mewn iechyd perthynas oedrannus fod yn gymaint o her, ac yn aml wyddoch chi ddim ble i fynd i gael cymorth. Mae Gofal a Thrwsio wedi bod gyda ni bob cam o’r ffordd wrth i anghenion fy nhad yng nghyfraith gynyddu. Maent yn ymateb mor dda ac yn gyflym i osod offer cynorthwyo symud”.

 

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygydd

Am Gofal a Thrwsio yng Nghymru

Mae Gofal a Thrwsio yn helpu pobl hŷn yng Nghymru i drwsio, addasu a chynnal a chadw eu cartrefi.

Rydym yn fudiad elusennol sy’n gweithredu ledled Cymru i sicrhau fod gan bobl hŷn gartrefi addas ar gyfer eu hanghenion.

Cefnogwn dros 40,000 o aelwydydd yng Nghymru bob blwyddyn, gan atal miloedd o bobl rhag gorfod mynd i ysbyty ac arbed dros £20m yn flynyddol i GIG Cymru.

Ein gweledigaeth yw Cymru lle gall pob person hŷn fyw yn annibynnol mewn cartrefi diogel, cynnes a chyfleus.

Darllenwch Stratgaeth Bum Mlynedd newydd Gofal a Thrwsio

https://careandrepair.org.uk/care-repair-unveils-ambitious-5-year-strategy-to-support-older-people-in-wales

Mae Swyddfa’r Wasg Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi sylw i ymweliad yr Ysgrifennydd Cabinet at Gillian: https://media.service.gov.wales/news/home-adaptations-supporting-safer-independent-living

Cyswllt Cyfryngau

Jack Bentley
Rheolwr Marchnata a Datblygu Busnes
07818 554 385
jack.bentley@careandrepair.org.uk

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.