Gwelwyd galw cynyddol am ein gwasanaethau yn y flwyddyn ddiwethaf wrth i’r wasgfa costau byw effeithio ar lesiant pobl hŷn a’u gallu i gynnal cartrefi.

Fe wnaeth y biliau tanwydd parhaol uchel hefyd daro ar bobl hŷn yn 2023/24, ac er bod prisiau ynni wedi gostwng ychydig erbyn diwedd y cyfnod, hyd yn oed yn awr mae prisiau ynni 39% yn uwch nag oeddent yn ystod gaeaf 2021/22.

Gwelwyd cynnydd arall flwyddyn-ar-flwyddyn yn y galw am ein gwasanaethau. Mae’r tueddiad hirdymor hwn oherwydd cynnydd enfawr mewn costau llafur a deunyddiau adeiladu, llai o incwm gwario ac anghenion mwy cymhleth gan bobl hŷn – caiff y materion hyn eu hystyried yn llawn yn ein hadroddiad pwysig Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru.

Blwyddyn o alw cynyddol

Bu cynnydd sylweddol yn y gwasanaethau y gwnaethom eu darparu y llynedd o gymharu â 2022/23, gyda 24% yn fwy o wasanaethau wedi eu darparu i gefnogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, a chwblhau 10% yn fwy o swyddi gwella cartrefi. Gwelsom hefyd gynnydd o 19% yng ngwerth y gwaith a gwblhawyd a chynnydd o 32% mewn budddaliadau a sicrhawyd ar gyfer ein buddiolwyr oedd â hawl iddynt.

  • Cyflwyno 67,606 o fathau gwasanaeth cyfun i gefnogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
  • Cwblhau £21.8 miliwn o waith trwsio a gwella tai ar draws ein holl wasanaethau.
  • Cwblhau 60,258 o swyddi.
  • Roedd y swyddi hyn yn cynnwys 19,023 fel rhan o’r Rhaglen Addasiadau Brys, yn galluogi pobl i fynd adre o’r ysbyty ac atal pobl rhag gorfod mynd i ysbyty a gofal preswyl.
  • Hawlio £12.56 miliwn o fudd-daliadau yn llwyddiannus ar gyfer pobl hŷn ar draws ein holl wasanaethau, gan helpu buddiolwyr i fedru fforddio biliau bwyd, cludiant a thalu biliau ynni a biliau eraill yn well.
  • Cefnogi 3,249 o bobl gyda cholled synhwyraidd, strôc a dementia i addasu eu cartrefi a byw’n annibynnol drwy ein gwasanaeth arbenigol Ymdopi’n Well.
  • Cefnogi 4,685 o gleifion i fedru mynd adre o’r ysbyty yn gyflymach ac yn ddiogel drwy ein gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach yn cynnwys arbed amcangyfrif o 25,968 o ddyddiau gwely.
  • Helpu 135 cleient drwy ein cronfeydd caledi, gan helpu i liniaru tlodi tanwydd, mynd i’r afael â gosodiadau nwy anniogel a chefnogi pobl hŷn sy’n byw mewn tai mewn cyflwr gwael. Gwelodd hyn gyfanswm cost gwaith o £173,528, gyda’n cronfeydd caledi yn cyfrannu £37,590.

Llwyddiant yn sicrhau cyllid

Mae cyllid yn hanfodol i’n gwaith. Felly, roeddem yn hynod falch i Lywodraeth Cymru, drwy gydnabod y pwysau arnom ac effaith ein gwaith, gynyddu cyllid Gofal a Thrwsio gan 6%. Yn ychwanegol, roedd cynnydd o £0.5 miliwn yn ystod cyfnod y gaeaf i gefnogi pobl i fynd adre o ysbyty a buddion ataliol ein Rhaglen Addasiadau Brys ledled Cymru.

Fe wnaethom hefyd sicrhau ffrydiau cyllid rhagorol yn ystod y flwyddyn yn 2023/24 gyda cheisiadau llwyddiannus i:

  • Y Loteri Genedlaethol am gronfa caledi £100,000
  • Wales & West Utilities am £1.3m o gyllid ar gyfer prosiect tlodi tanwydd dwy flynedd (2024-26) Hynach Nid Oerach. Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i roi mwy o gymorth i gleientiaid sydd mewn tlodi tanwydd, yn byw mewn cartrefi oer ac yn ei chael yn anodd talu biliau ynni.
  • £20,000 gan Wales & West Utilities ar gyfer larymau CO arbenigol ar gyfer cleientiaid Ymdopi’n Well sydd â nam synhwyraidd.
  • Dros £560,000 gan bump Bwrdd Iechyd i’n galluogi i barhau i gyflwyno ein gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach llwyddiannus ac effeithlon iawn, allan o 17 prif ysbyty a nifer fawr o ysbytai cymunedol ledled Cymru.

Uchafbwynt y flwyddyn oedd ennill gwobr bwysig Effaith Iechyd GSK a Kings Fund. Roeddem yn un o ddim ond deg enillydd o 520 o blith ymgeiswyr trydydd sector yn y Deyrnas Unedig, gan gydnabod effaith ein gwaith ar iechyd a llesiant y boblogaeth. Roedd y wobr o £40,000, fideos cyhoeddusrwydd a gynhyrchwyd yn broffesiynol ynghyd â hyfforddiant ar arweinyddiaeth a chyfleoedd rhwydweithio yn dderbyniol iawn.

Drwyddi draw, bu’n flwyddyn foddhaol o gyflawni nodau darpariaeth gwasanaeth ar gyfer ein cleientiaid a thyfu fel sefydliad. Fel Cadeirydd a Phrif Weithredwr, hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein gwaith yn ystod 2023-24; Asiantaethau Gofal a Thrwsio, Llywodraeth Cymru, partneriaid cenedlaethol a lleol, partneriaid trydydd sector a’n holl gyllidwyr.

Hoffem hefyd dalu teyrnged i dîm staff gwych Care & Repair Cymru am eu gwaith caled a’u hymroddiad ac am wneud cymaint o wahaniaeth i ansawdd bywyd pobl hŷn ledled Cymru.

Chris Jones, Prif Weithredwr

Saz Willey, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.