Bu Gillian Arnold yn gweithio yn y gwaanaeth carchardai am 20 mlynedd cyn iddi gael strôc ym mis Ionawr 2024.

Nid mater syml oedd iddi gael mynd adre o’r ysbyty yn ôl i’w bwthyn 100 oed bychan ger Pont-y-pŵl ond gallodd Gofal a Thrwsio wneud y newidiadau oedd eu hangen.

Esboniodd Gillian yr hyn ddigwyddodd: “Cefais strôc ar 7 Ionawr 2024 ac roeddwn yn yr ysbyty am dri mis. Es i’r gwaith y diwrnod hwnnw a theimlo ychydig yn rhyfedd. Dywedais wrth fy llywodraethwr a chefais fy anfon i’r ysbyty. Yna cefais strôc fawr yn ystod y nos.

“Roedd gen i therapydd galwedigaethol pan oeddwn yn ysbyty ac roedd eisiau lluniau o fy nghartref, felly tynnodd fy merched rai fel y gallai weld. Fe ddywedodd na fyddwn yn cael mynd adre nes bod rheiliau ar y grisiau ac o flaen y tŷ. Felly fe wnaethom nhw drefnu i Gofal a Thrwsio siarad gyda fy merched.

“Roedd popeth wedi ei wneud erbyn i fi fynd adre! Roedd gen i reiliau yn yr ardd, ar y grisiau ac wrth y drws. Roedd gen i godwyr ar fy soffa a sedd gawod wedi’i gosod yn yr ystafell ymolchi. Mae gennyf hefyd sêff allweddi a golau diogelwch wrth fy nrws ffrynt.

“Fe gafodd Gofal a Thrwsio fi adre.  Roeddem mewn cysylltiad gyda Donna a roedd hi’n hollol wych.”

Gillian with Teddy the dog.

Gillian gyda Tedi’r ci.

Donna Coughlin yw Gweithiwr Achos Cartrefi Iachach Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen. Dywedodd: “Cafodd Gillian ei hatgyfeirio atom gan ward strôc Ysbyty Ystrad Fawr. Roedd grisiau ochr agored yn ei chartref oedd yn golygu na fyddai’n ddiogel iddi fynd adre.

“Fe gawson ni lawer o offer cymorth a gwaith addasu iddi. Unwaith yr oedd popeth yn ei le gallodd fynd adre ac fe wnes ymweliad dilyn lan yn fuan wedyn.

“Fe wnaeth gymaint o argraff arnaf pan wnes gyfarfod hi. Mae gen i gefndir o weithio fel cydlynydd cymorth strôc, felly rwyf wedi cwrdd â llawer o oroeswyr strôc. Mae’n rhagorol fod Gillian wedi ymdopi mor dda a’i bod mor barod i roi cynnig ar y gwasanaethau a’r pethau a fedrai ei helpu.

“Mae ganddi natur mor hyfryd, ac nid yw’n canolbwyntio ar yr hyn na all ei wneud ond ar yr hyn sy’n bosibl iddi. Gofynnodd y nyrsys ar ei ward iddi siarad gyda chleifion strôc eraill ac mae hi mor gadarnhaol am bopeth.”

Pan ofynnwyd iddi beth mae’r newidiadau wedi ei olygu iddi, dywedodd Gillian: “Yr effaith yw y gallaf fyw yn fy nhŷ oherwydd fedrwn i ddim fod wedi byw yma, nid oedd dim byd yma. Ni allwn fynd lan y grisiau!”

Cafodd Cynllun Llysgennad Gofal a Thrwsio ei lansio ym mis Mawrth 2024, a daeth Gillian Arnold ein Llysgennad cyntaf erioed. I ddarllen mwy am y cynllun, ewch i:

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.