Mae Care & Repair Cymru wedi cyhoeddi llyfryn cyngor newydd dan y deitl ‘Cartrefi Iach ar gyfer Heneiddio Iach’.

Gellir lawrlwytho’r llyfryn yn rhad ac am ddim ac mae’n llawn cynghorion ar sut y gall pobl hŷn gadw’n ddiogel a chynnes yn eu cartref eu hunain. O gyngor da ar sut i osgoi baglu i restr wirio gyfleus o bethau i gadw golwg amdanynt bob mis a blwyddyn, mae’r llyfryn yn cynnwys llawer o wybodaeth ymarferol ddefnyddiol.

Fel hyrwyddwr tai pobl hŷn yng Nghymru, bu Care & Repair Cymru yn cynnig cyngor ar dai yn rhad ac am ddim am dros 30 mlynedd. Bob dydd, mae Gofal a Thrwsio yn cefnogi pobl hŷn ledled Cymru i barhau i fyw’n ddiogel adre drwy gynnig addasiadau a gwaith trwsio.

Mae’r llyfryn yn cynnwys gwybodaeth ar:

  • Delio gyda lleithder a llwydni
  • Cyngor da ar sut i osgoi baglu a llithro
  • Sut i arbed ynni a chadw eich biliau yn isel
  • Sut i ganfod crefftwr dibynadwy
  • Y budd-daliadau y gallech eu hawlio
  • Diogelwch nwy a carbon monocsid
  • A llawer mwy!

Gallwch lawrlwytho’r llyfryn am ddim nawr.

 

Eisiau ei ddarllen yn Saesneg? Darllenwch y fersiwn Saesneg yma.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.