Mae’n rhaid i lywodraeth nesaf y DU sicrhau fod y Deyrnas Unedig yn genedl sy’n grymuso ac yn darparu tai i’w phoblogaeth heneidddiol.

Bob dydd mae Asiantaethau Gofal a Thrwsio ar draws y DU yn gweld pobl hŷn yn byw mewn tai heb fod yn addas nac yn ddiogel, heb fawr o gyfleoedd i gael iawn neu i wella eu sefyllfa. Fodd bynnag, credwn fod camau y gall llywodraeth nesaf y DU eu cymryd i fynd i’r afael â hyn a newid bywydau drwy wella cartrefi.

Blaenoriaethau ar gyfer llywodraeth nesaf y DU

Mae ein poblogaeth heneiddiol yn golygu fod yn rhaid i lywodraeth ar draws y DU weithredu nawr i sicrhau y gallwn gefnogi pobl hŷn i barhau i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae’n rhaid i ni ymrwymo i fynd i’r afael â’r problemau tai sy’n wynebu pobl hŷn fel y gallant fyw yn urddasol ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y dewisant. Rhaid i gartrefi fod yn gynnes, diogel a chyfleus ac y gellir eu haddasu ar hyd cwrs bywyd.

Mae Gofal a Thrwsio ar draws y DU yn credu y dylai llywodraeth nesaf y DU:

  1. Gynnwys hawl i dai digonol yng nghyfraith y DU
  2. Dileu’r loteri cod post ar gyfer addasiadau tai
  3. Gweithredu grant rhwyd ddiogelwch ar gyfer gwaith galluogi
  4. Diogelu gwasanaethau ymweld â chartrefi a gwybodaeth hygyrch

Yr hyn a gredwn

Mae canghennau Gofal a Thrwsio mewn cymunedau ar draws pob cenedl yn y DU. Mae ein gwasanaeth ymweld â chartrefi yn golygu ein bod yn deall anghenion tai pobl hŷn. Mae ein Hasiantaethau wedi addasu dros gyfnod i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau tasgmyn, addasiadau tai bach i fawr, mesurau gwella cartrefi yn cynnwys gwres fforddiadwy a chyflymu rhyddhau o ysbyty, a gwybodaeth a chyngor.

Gofal a Thrwsio yw hyrwyddwr tai pobl hŷn. Rydym yn gwella cartrefi i newid bywydau. Nid ydym yn derbyn y dylai unrhyw berson hŷn:

  • Fyw mewn cartref anaddas ar gyfer eu hanghenion
  • Mynd yn wael oherwydd eu bod yn byw mewn tŷ oer
  • Byw mewn tŷ sy’n beryglus neu heb fod yn ffit i fyw ynddo.
  • Bod heb yr addasiadau angenrheidiol i’w helpu i fyw’n annibynnol gydag urddas, yn eu cartref eu hunain.

 

Cyswllt

Care & Repair Scotland
www.careandrepairscotland.co.uk
CareRepScotland@outlook.com

Care & Repair Cymru
www.careandrepair.org.uk
enquiries@careandrepair.org.uk

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.