Roedd Delyth yn fenyw dros 70 brysur oedd yn mwynhau teithio’r byd nes iddi syrthio lawr y grisiau yn ei chartref yn Ne Cymru. Yma mae’n rhannu ei stori am sut mae Gofal a Thrwsio wedi ei helpu.

Hyd at 2021, roeddwn yn fenyw 71 oed cymharol ffit a iach. Roeddwn yn mwynhau bywyd, ac wedi bod ar wyliau i China, Fietnam, Periw, America a Canada.

Fodd bynnag, ar ôl syrthio lawr y grisiau ym mis Ionawr, roeddwn yn ei chael yn anodd gwneud y pethau sylfaenol o amgylch fy nghartref. Ar ôl dau ymweliad i’r Adran Frys, canfuwyd fy mod wedi torri dau asgwrn ac roedd yn rhaid i mi wisgo brês ar fy nghefn yn ystod y dydd am y pedwar mis nesaf. Roeddwn yn ei chael yn anodd dringo’r grisiau, cael cawod, sefyll i goginio fy mhrydau bwyd a golchi llestri yn ogystal â cheisio mynd tu fas. Roeddwn yn gorfod dibynnu ar gymydog a chyfaill da i wneud fy ailgylchu yn ogystal â phethau sylfaenol eraill.

Roedd fy nghymydog wedi sôn wrthyf am Gofal a Thrwsio, ond ar y pryd doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn berthnasol i mi. Rhoddodd y rhif cyswllt i fi ac fe wnes gysylltu â nhw yn y diwedd. Yn dilyn hyn, ymwelodd Jayne Jones, Gweithiwr Achos Gofal a Thrwsio, â fy nghartref a chysylltu gyda’r Therapydd Galwedigaethol. Fe archebodd ganllawiau wedi galfaneiddio tu fas fy nghartref a chanllawiau cydio ar gyfer y drysau. Daeth y Therapydd Galwedigaethol draw ac argymell beth oedd ei angen ar gyfer y grisiau a’r bath.

Yn dilyn hynny, cafodd canllawiau eu gosod lan y grisiau, yn y gawod,  uwchben y bath ac wrth ochr y toiled. Cefais hefyd gadair uchel ar gyfer y gegin – rhywbeth sydd wedi bod yn werthfawr tu hwnt, gan ei fod yn golygu nad yw fy nghefn yn boenus iawn pan fyddaf yn coginio ac yn golchi llestri. Mae hefyd yn mynd â’r straen oddi ar fy mhen-gliniau, gan na allaf sefyll yn hir. Mae hefyd wedi rhoi llawer mwy o hyder i fi, gan fod cwympo wedi gwneud i mi deimlo’n ansicr.

Yn ystod ymweliadau wedyn gan Gofal a Thrwsio cefais ganllawiau bach wrth y drws cefn, fy nrws patio a lawr y stepiau at y patio is. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i fi roi fy ailgylchu mas heb orfod dibynnu ar fy nghymdogion – gan felly fy helpu i gadw fy annibyniaeth.

Yr un peth y gwnes ei golli oedd medru mynd i’r bath. Roeddwn yn amharod iawn i gymryd bath, ar ôl methu dod mas unwaith. Fe wnaeth hynny i mi deimlo’n ansicr iawn ac yn ofnus o gymryd bath wedyn. Soniais am hyn wrth Jayne, a gysylltodd gyda’r Therapydd Galwedigaethol eto. Ymwelodd unwaith eto ac mae gen i bellach lifft bath ac rwy’n medru cael bath gan wybod na fyddaf yn methu dod oddi yno eto. Nefoedd!!

Roeddwn yn synnu clywed nad oedd yn rhaid i mi dalu am ddim o hyn – rhywbeth a gynigiais ei wneud, ond dywedwyd wrthyf yn bendant fod gennyf yr hawl i’r buddion. Wrth i amser fynd heibio rwy’n dal i fedru gyrru – diolch byth – ond rwyf wedi ei chael yn fwy a fwy anodd i gerdded felly rwy’n gorfod defnyddio ffon. Fe welsant drwy brofion a phelydr-x fod gen i osteporosis ac arthritis, felly rwyf yn awr ar y rhestr aros am ben-glin newydd.

Gwnaeth Jayne gais am Lwfans Gweini a Bathodyn Glas i fi. Rwy’n falch dweud y cefais fathodyn glas i barcio – rhywbeth sy’n werthfawr tu hwnt. Rwyf hefyd yn cael y lwfans gweini – ac yn ei ddefnyddio i dalu i berson glanhau sy’n dod bob wythnos a rhywun i olchi fy nillad gwely.

Ni fedraf orbwysleisio faint mae Gofal a Thrwsio wedi fy helpu, i fy ngadw’n ddiogel a chymharol annibynnol.

Mae’n gynllun SEREN AUR ac yn haeddu ei ganmol mewn unrhyw ffordd bosibl. Hir oes iddo.

Delyth Parry

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.