Posted: 13.03.2024
Author: jack
Mae adroddiad newydd Care & Repair Cymru yn datgelu cynnydd pryderus mewn enghreifftiau o dai mewn cyflwr gwael sy’n beryglus yng Nghymru a’r canlyniadau difrifol y mae hyn yn eu cael. Mae tai mewn cyflwr gwael yn cael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant ac yn atal addasiadau syml fel canllawiau a lifftiau grisiau rhag cael eu gosod i bobl y mae arnynt eu hangen.
Dywed yr elusen, sy’n arbenigo mewn addasiadau a thrwsio cartrefi pobl hŷn bod cynnydd o 130% wedi bod yn y nifer o bobl sy’n chwilio am gyllid elusennol i helpu i wella cyflwr eu tai.
Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru: “Am yn rhy hir, mae problemau traul bychan wedi mynd heb eu hatal a’u datrys, gan arwain at broblemau tai mewn cyflwr gwael mawr. Mae canlyniadau difrifol o ran iechyd a llesiant pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi mewn cyflwr gwael. Ond ychydig iawn o gyllid sydd ar gael i ddatrys y problemau cynyddol yma, sy’n golygu bod y dewisiadau i berchenogion tai ar incwm isel yn mynd yn brin.”
Mae’r adroddiad newydd yn hawlio bod y problemau yn llawer gwaeth oherwydd cyfuniad o brinder contractwyr dibynadwy, prisiau cynyddol deunyddiau, a diffyg cydbwysedd mewn polisi sy’n gadael perchenogion tai yn fregus, a thai mewn cyflwr gwael heb gael sylw. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r canlyniadau difrifol y gall tai mewn cyflwr gwael eu cael ar unigolion hŷn, gan bwysleisio’r angen brys am ymyraethau i sicrhau bod stoc tai Cymru yn addas ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio a chenedlaethau’r dyfodol.
Un broblem y mae’r elusen yn ei hamlygu yw’r modd y mae cyflwr gwael tai yn atal addasiadau rhag cael eu gosod. Maen nhw’n nodi nad yw’n hawdd ychwanegu canllawiau at risiau mewn cyflwr gwael, sy’n golygu bod codymau ac arhosiad yn yr ysbyty yn fwy tebygol. Yn yr un modd, mae gwaith trydanol gwael ac anniogel yn ei gwneud yn amhosibl gosod lifft grisiau, a all adael person hŷn neu anabl heb ryddid yn ei gartref ei hun.
Mae’r elusen yn galw am grant rhwyd diogelwch i gywiro cyflwr gwael peryglus yng nghartrefi Cymru, fydd yn gadael i bobl hŷn fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartref. Byddai rhwyd diogelwch i ddatrys problemau fel to yn gollwng, ffenestri drafftiog, a thrawstiau lloriau sy’n pydru yn golygu y gall cartrefi gael addasiadau hanfodol a chael mynediad at gynlluniau effeithlonrwydd ynni i wella iechyd a llesiant yn y cartref, a gwneud tai Cymru yn addas i’w phoblogaeth sy’n heneiddio.
Bydd tai gwael yn effeithio ar iechyd a llesiant unrhyw un, ac mae pobl hŷn yng Nghymru mewn risg neilltuol. Bydd ymdrin â chartrefi gwael a buddsoddi mewn cynnal a chadw a thrwsio yn lleihau’r pwysau ar wasanaethau gofal iechyd trwy sicrhau bod peryglon i iechyd fel codymau, cartrefi oer yn cael eu datrys cyn iddyn nhw achosi anaf neu salwch.
Mae Care & Repair Cymru yn pwysleisio’r brys i ymdrin â’r argyfwng tai mewn cyflwr gwael, gan ddweud bod pob person hŷn yng Nghymru yn haeddu byw mewn cartref diogel ac addas i fyw ynddo.
Mae adroddiad newydd Care & Repair Cymru ar gael yn www.careandrepair.org.uk/cy/disrepair.