Am yn rhy hir, mae problemau traul bychan wedi mynd heb eu hatal a’u datrys, gan arwain at broblemau tai mewn cyflwr gwael mawr sy’n niweidio iechyd a llesiant pobl hŷn fregus.
Ynghyd â llai o gontractwyr, codiadau prisiau oherwydd chwyddiant am ddeunyddiau a llai o gyfleoedd ariannu, mae’r dewisiadau i berchenogion tai ar incwm isel i gael cymorth yn mynd yn brin.
Mae Gofal a Thrwsio yn gweithio bob dydd i gefnogi pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi anaddas, anniogel sydd mewn cyflwr gwael. Gan ddefnyddio ein data ein hunain rydym wedi rhoi canfyddiadau am dai mewn cyflwr gwael mewn adroddiad newydd.
Ein canfyddiadau allweddol:
- Mae’r nifer o gleientiaid sy’n dod at Gofal a Thrwsio am gymorth wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn:
- Yn 2018-19 fe wnaethom roi cymorth i 26,733 o bobl hŷn.
- Dengys ein hystadegau mwyaf diweddar am 2022-23, bod hyn wedi cynyddu i 62,607 o bobl.
- Mewn un flwyddyn rydym wedi gweld cynnydd o 130% mewn gwaith a ariannwyd yn elusennol i wella cyflwr tai.
- Bu’n rhaid i Asiantaethau Gofal a Thrwsio ychwanegu ‘Lleihau treiddiad dŵr, tamprwydd a llwydni’ fel canlyniad prif gam ymyrryd penodol, gan ein bod yn gweld cynnydd mewn galwadau gan bobl hŷn ar gyfer y math yma o broblem.