Bob dydd mae Gofal a Thrwsio yn gweld pobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tai anaddas a heb fod yn ddiogel, heb fawr o gyfleoedd i gael iawn neu wella eu sefyllfa.

Hyd at fis Ebrill 2023 roedd gan Gofal a Thrwsio wasanaeth arbenigol ar dlodi tanwydd a chyngor ynni. Roedd bron pob cleient a ddaeth i gysylltiad â’r gwasanaeth hwn yn byw mewn tlodi tanwydd. Gan ddefnyddio sampl dienw o’n cleientiaid, fe wnaethom gyfrifo gwariant cyfartalog ar ynni dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer cleientiaid Gofal a Thrwsio a ddefnyddiodd y gwasanaeth ac a gafodd gymorth gan y llywodraeth.

Canfyddiadau allweddol

  • Hyd yn oed gyda phecynnau cymorth y llywodraeth a gostyngiad yn y cap pris ynni, bydd cleientiaid cyffredin Gofal a Thrwsio yn gwario 19% o’u hincwm ar gyfleustodau yn ystod gaeaf 2023-24, gan wario 15% o’u hincwm ar nwy a thrydan yn unig. Mae hyn yn rhoi ein cleient cyffredin mewn tlodi tanwydd, gan ei chael yn anodd gwresogi eu cartrefi i lefel foddhaol.
  • Yn ein sampl o aelwydydd Gofal a Thrwsio a gysylltodd â’n gwasanaeth cyngor ynni 70+ Cymru, roedd 96% o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae cleientiaid Gofal a Thrwsio mewn risg neilltuol o oblygiadau iechyd cartrefi oer; mae 75% o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yn bobl 75 oed a throsodd.
  • Hyd yn oed gyda chynnydd yn y pensiwn gwladol yn unol â chwyddiant, dengys ein hamcangyfrif fod pobl hŷn yn dal i wario cyfran uwch o’u hincwm ar filiau cyfleustodau o gymharu â lefelau 2021/2022. Mae ein cleientiaid hefyd yn ymaflyd gyda chynnydd mewn costau eraill, tebyg i’r siopa bwyd wythnosol cyfartalog sydd wedi codi gan 28% ers 2021.

Nid yw pecynnau cymorth y llywodraeth yn ddatrysiad parhaol i helpu pobl i aros allan o dlodi tanwydd; mae angen datrysiadau hirdymor i gadw pobl hŷn yn gynnes yn eu cartrefi, atal salwch cysylltiedig ag oerfel a mwy o bobl yn gorfod mynd i ysbyty.

LAWRLWYTHO YR ADRODDIAD

Argymhellion Care & Repair Cymru

Cyflwyno tariffau cymdeithasol ar gyfer biliau ynni

Mae aelwydydd incwm is yn talu mwy am ynni. Byddai cynnig cynlluniau prisiau rhatach yn golygu y daw biliau yn fforddiadwy a bod aelwydydd yn medru gwrthsefyll cynnydd prisiau ynni yn y dyfodol.

Diwygio taliadau sefydlog

Mae taliadau sefydlog biliau ynni wedi codi gan 64% ers cyflwyno’r cap prisiau ac yn effeithio mwy ar aelwydydd incwm isel a rhai sydd â mesuryddion blaen-dalu. Dylai costau sefydlog gael ei gostwng i bris fforddiadwy.

Grant rhwyd ddiogelwch ar gyfer tai mewn cyflwr gwael

Byddai grant rhwyd ddiogelwch yn helpu i wneud gwelliannau ynni i gartrefi, megis trwsio ffenestri drafftiog. Mae mwy o wybodaeth ar hyn yn ein hadroddiad Cyflwr Tai Pobl Hŷn.

Gwasanaethau Gofal a Thrwsio yn hanfodol ar gyfer iechyd pobl hŷn yng Nghymru

Mae Gofal a Thrwsio yn gweithio’n ddiflino ar draws Cymru i gefnogi aelwydydd hŷn bregus gan eu helpu i fyw’n annibynnol mewn cartrefi cynnes, diogel a chyfleus. Mae anghenion cymhleth a maint y galw am ein gwasanaethau yn uwch nag erioed, ac mae pobl hŷn yng Nghymru yn dibynnu ar yr help a ddarparwn.

I gefnogi ein cleientiaid sydd â chartrefi oer ac aneffeithiol o ran ynni ac atal salwch cysylltiedig â’r oerfel, bydd Care & Repair Cymru yn cynnig ein gwasanaeth newydd Hŷn Nid Oerach, gwasanaeth cyngor ar ynni cartref a gyllidir gan Wales & West Utilities. Byddwn yn darparu technegau arbed ynni cartref, gwelliannau tai, cefnogi mynediad i grantiau llywodraeth a dyngarol a herio arferion annheg cyflenwyr ynni.

Wrth i ni weld nifer cynyddol o bobl hŷn yn cwtogi ar eu defnydd o ynni, yn mynd i dlodi tanwydd ac yn gorfod mynd i ysbyty gyda salwch cysylltiedig â’r oerfel, mae ein gwasanaeth yn fwy hanfodol nag erioed. Rydym yn rhaff fywyd i aelwydydd bregus sydd heb fawr o gyfleoedd i wella eu sefyllfa.

Hannah Peeler, Swyddog Polisi a Chyllid   Hannah.peeler@careandrepair.org.uk

YMHOLIADAU GAN Y CYFRYNGAU: Ar gyfer pob ymholiad gan y cyfryngau, cysylltwch â  Jack Bentley: jack.bentley@careandrepair.org.uk | 07818 554 385

CYFLWR TAI POBL HŶN YNG NGHYMRU

Mae argyfwng mewn tai pobl hŷn. Mae adroddiad newydd Care & Repair Cymru yn edrych ar yr heriau, achosion a datrysiadau i fygythiad sy’n targedu pobl hŷn sy’n berchen eu cartrefi eu hunain.

DARLLEN EIN ADRODDIAD TAI

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.