Posted: 14.11.2023
Author: jack
Yn RNIB Cymru rydym yn falch i fod wedi ymwneud â phrosiect Ymdopi’n Well Gofal a Thrwsio o’r cychwyn cyntaf, ac wedi ei weld yn helpu cynifer o bobl ddall a gyda nam ar eu golwg i feithrin yr hyder a sgiliau i fyw’n annibynnol.
Mae gweithio gyda’n ffrindiau mewn elusennau fel RNID, y Gymdeithas Strôc a Chymdeithas Alzheimer Cymru wedi ein galluogi i gryfhau cysylltiadau presennol a darganfod ffyrdd newydd o gydweithio i gyflawni ein nodau, ac mae miloedd o bobl gyda cholled synhwyraidd wedi manteisio o’r cydweithio yma.
Rydym yn dod â chyfoeth o wybodaeth am golli golwg i brosiect Ymdopi’n Well, gan roi ein harbenigedd i staff yn ogystal â chyngor a gwybodaeth ymarferol.
Rhoddwn hyfforddiant i weithwyr achos Ymdopi’n Well ar newidiadau ymarferol ac yn aml syml i’r cartref a all gefnogi pobl i fod yn fwy diogel a mwy annibynnol, tebyg i oleuadau ychwanegol. newid lliw a gwrthgyferbyniad lliwiau mewn ystafelloedd. Mae ein tîm Technoleg am Oes yn rhoi hyfforddiant a chyngor ar bopeth yn ymwneud â thechnoleg o ddefnyddio’r nodweddion hygyrchedd ar ffonau symudol i ddefnyddio offer sain deallus.
Drwy roi cyfle i ni gyfuno ein gwasanaethau gyda sefydliadau eraill, mae Ymdopi’n Well yn golygu y gallwn ar y cyd gyrraedd mwy o’r bobl sydd ein hangen, gan roi cymorth mwy cynhwysfawr ac amserol nag y gallai unrhyw un ohonom ei roi yn unigol a sicrhau y gallant gael help beth bynnag eu hanghenion.
Mae’n bartneriaeth sy’n gweithio cystal oherwydd yr ymddiriedaeth sydd gennym yn ein gilydd, gyda’r sicrwydd fod gan bob un ohonom yr wybodaeth a’r gallu yn ein meysydd unigol i ddarparu’r cymorth gorau posibl i’r bobl sydd ein hangen.
Gan siarad am rym ein partneriaeth mae Ansley Workman, ein Cyfarwyddwr, yn aelod o’r grŵp llywio. Dywedodd:
“Rydym wedi bod yno o ddechrau Ymdopi’n Well, gan roi ein harbenigedd i sicrhau fod pobl gyda cholled golwg yn gallu byw bywyd annibynnol.
“O’n tîm technoleg tîm yn gweithio wrth ochr staff Gofal a Thrwsio i ganfod ffyrdd blaengar i bobl gwblhau tasgau dyddiol, i gynghori ar y ffordd orau i wneud cartrefi pobl yn gyfleus, mae’n wych gweld y gwahaniaeth cadarnhaol a wnawn bob dydd.
“Mae’r elusennau eraill sy’n rhan o’r bartneriaeth yn dod â’u cyngor arbenigol a’u gwasanaethau eu hunain. Drwy gydweithio rydym yn gymaint cryfach, gan ein galluogi i gyfuno ein hymdrechion er budd y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau newid bywyd Ymdopi’n Well.”
Fe wnaethom gwrdd â Beverly am y tro cyntaf ar ôl iddi gael ei chyfeirio atom drwy ei chlinig llygaid lleol ac iddi gael ei rhoi mewn cysylltiad gydag un o’n Swyddogion Cydlynu Gofal Iechyd.
Mynychodd gwrs rhad ac am ddim Byw’n Dda gyda Cholli Golwg lle gafodd fynediad i adnoddau a gwybodaeth i’w helpu i drin ei chyflwr yn cynnwys rhaglen Ymdopi’n Well. Ar y cymorth a gafodd, dywedodd:
“Y peth oedd yn codi mwyaf o ofn arnaf oedd nad oeddwn yn gwybod llawer am olwg dwbl neu golli golwg yn gyffredinol. Roedd yn wych cael cyfle i gwrdd â’r bobl eraill oedd wedi mynd drwy’r un peth â fi a chael cyngor arbenigol i ddeall fy nghyflwr.”
Dywedodd Ansley:
“Mae’n wych clywed i ni fedru helpu Beverley gael yr hyder a’r ddealltwriaeth sydd wedi ei galluogi i ddechrau byw’n annibynnol eto.
“Mae ei stori yn enghraifft wych o sut mae ein gwasanaethau unigol, o fewn a thu allan i’r RNIB, yn cydweithio i gynnig cefnogaeth ystyrlon i bobl ddall a phobl gyda golwg rhannol drwy’r hyn all fod yn brofiad heriol. Mae ei thrawsnewidiad yn siarad drosto’i hun.
“Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio a helpu llawer mwy o bobl i fyw’n annibynnol.”
Mae Beverly yn ddim ond un o filoedd o bobl y mae RNIB Cymru wedi eu cefnogi yn y flwyddyn ddiwethaf. Gweithiwn ar ran y 112,00 o bobl ddall a phobl gyda golwg rhannol ledled Cymru, gan ddarparu ystod o wasanaethau i’w cefnogi.
O’n gwasanaeth trawsysgrifio am ddim, sy’n mynd â deunydd print i fod ar gael mewn ystod o fformatau hygyrch, i’n llinell gymorth sy’n cynnig llinell uniongyrchol i gymorth a chyngor, rydym yma ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy’n profi colli golwg.
Rydym hefyd yn ymgyrchu dros welliannau i wasanaethau a chodi ymwybyddiaeth o’r materion pwysicaf, yn cynnwys strydoedd mwy diogel, gofal iechyd hygyrch, cyfathrebu a newid agweddau am gyflogaeth.
Darllenwch fwy am ein gwaith yn rnib.org.uk/Cymru.