I lawer o bobl gall y Nadolig fod yr amser mwyaf rhyfeddol o’r flwyddyn. Ond gall hefyd fod yn gyfnod anodd, yn arbennig i bobl sy’n teimlo’n unig neu yn ynysig.  

Dyna pam, eleni, bod Gofal a Thrwsio wedi ymuno ag Age Cymru ac Age Connects Wales i rannu ychydig o hwyl y Nadolig trwy’r apêl Blychau Rhodd, ac rydym yn gofyn am eich help chi.

Rydym yn gwahodd pawb i lenwi blwch esgidiau gydag anrhegion Nadoligaidd, i’w dosbarthu i rywun hŷn a all fod heb ffrindiau na theulu o’u cwmpas y Nadolig hwn. Nid oes raid i’r rhoddion fod yn ddrud, a’ch penderfyniad chi yw beth i’w gynnwys. Edrychwch ar dudalen apêl Age Cymru ar y we  i gael awgrymiadau gwych. Yn Gofal a Thrwsio rydym yn hoffi iawn o’r syniad o gynnwys rhywbeth a all helpu i gadw rhywun hŷn yn gynnes, nid yn unig dros y Nadolig ond trwy fisoedd y gaeaf. Mae sgarffiau, hetiau, menig neu sanau clyd yn anrhegion poblogaidd bob amser. Neu fe allech chi ystyried un o’r llu o ddyfeisiadau rhad sydd ar gael erbyn hyn fel cynheswyr llaw, gwadan esgid wedi ei gynhesu neu wasgod ynysu i gadw diod yn boeth.

Mae rhai pethau na allwn eu derbyn yn y parseli. Yn benodol, cofiwch na allwn gynnwys eitemau sydd wedi eu defnyddio neu ail-law yn y blychau rhodd. Hefyd, peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch eich hun, er bod croeso i chi gynnwys neges Nadoligaidd neu gerdyn fel rhan o’ch rhodd.

Efallai y byddwch am feddwl am addurno eich parsel, gyda phapur lapio Nadolig efallai neu batrymau tymhorol eraill. Gallai hyn fod yn weithgaredd i’r teulu cyfan. Peidiwch â selio’r blychau, gan y bydd arnom angen gwirio’r cynnwys. Defnyddiwch linyn neu fand rwber i gadw’r caead yn ei le.

Efallai y byddai eich gweithle, ysgol, clwb cymdeithasol neu dîm chwaraeon yn hoffi casglu blychau Nadolig fel rhan o’ch dathliadau. Os felly, byddem yn barod iawn i ddarparu posteri. Pam na wnewch chi rannu ysbryd y Nadolig ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #GiftBoxAppeal.

Mae nifer o leoliadau ar draws Cymru lle gallwch chi adael eich blychau rhodd. Rhestrir y cyfeiriadau isod. Byddant yn cael eu casglu ar ôl 1 Rhagfyr a’u dosbarthu gan y tair elusen sy’n cymryd rhan dros dymor y Nadolig.

Rydym wedi cyffroi’n fawr o gael y cyfle hwn i rannu ychydig o hyd y Nadolig i bobl a allai deimlo yn unig ar yr adeg arbennig hon o’r flwyddyn. Allwn ni ddim aros i weld eich parseli rhoddion rhyfeddol!

Sut gallwch chi helpu mewn Pedwar Cam:

  1. Chwiliwch am flwch esgidiau a lapio’r blwch a’r caead ar wahân mewn papur Nadolig.
  2. Llenwch y blwch esgidiau â rhoddion.
  3. Peidiwch â selio’r blwch, ond rhowch label i nodi os yw’r blwch i ddyn, menyw neu yn un generig.
  4. Gadewch y blwch yn eich swyddfa Gofal a Thrwsio leol – gweler y rhestr isod (neu cysylltwch â nhw i weld a allant drefnu i’w nôl).

Ein Lleoliadau Gadael Blychau Rhodd:

Pen-y-bont ar Ogwr

Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr, Avon Court, Heol y Bontfaen, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SR (Dolen Map Google)

Rhif ffôn: 01656 646755

Caerdydd

Care & Repair Cymru, Llawr 1af, Mariners House, Trident Court, East Moors Road, Caerdydd CF24 5TD (Dolen Map Google)

Rhif ffôn: 02920 107580

Ferndale

Gofal a Thrwsio Cwm Taf, 38-39 Duffryn Womanby, Ferndale, Rhondda Cynon Taf CF43 4ER (Dolen Map Google)

Rhif ffôn: 01443 755696

Llanelli

Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin, 3 Eastgate, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA15 3YF (Dolen Map Google)

Rhif ffôn: 01554 744300

Pont-y-pŵl

Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen, S2, Sycamore Suite, Caerleon House, Stad Parc Mamhilad, Pont-y-pŵl NP4 0HZ (Dolen map Google)

Rhif ffôn: 01495 745936

Llanelwy

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych, Uned 10/11 Ffordd Richard Davies, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0LJ (Dolen map Google)

Rhif ffôn: 0300 111 2120

Abertawe

Gofal a Thrwsio Bae Gorllewinol, Adeiladau Llys Tawe, Stad Ddiwydiannol Players, Clydach, Abertawe, SA6 5BQ (Dolen map Google)

Rhif ffôn: 01792 798599

Rhagor o Wybodaeth a Mwy o Fannau i Adael y Rhoddion!

Mae gan Age Cymru ac Age Connects hefyd fannau lle gallwch chi anfon eich blychau rhodd. Cliciwch y botwm isod i fynd i dudalen apêl Age Cymru gyda mwy o wybodaeth a mwy o leoliadau i adael eich blychau rhoddion.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.