Yn dilyn cyhoeddi ein hadroddiad ‘Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru’ yn Ionawr 2023, mae Gofal a Thrwsio wedi parhau i godi ymwybyddiaeth o’r miloedd o bobl hŷn ar draws Cymru sy’n byw mewn tai anaddas.  

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth BBC Wales Today gydnabod ein gwaith, gan ddefnyddio eu rhaglen newyddion nosweithiol i roi adroddiad am ein cais i Lywodraeth Cymru gyflwyno grant rhwyd diogelwch trwsio tai i bobl hŷn sydd wedi cyrraedd y pen o ran gwella cyflwr eu cartref.

Bu gohebydd BBC Wales, Siôn Pennar, yn siarad â chleient Gofal a Thrwsio, Tony, o ardal Llandudno, sydd wedi bod yn aros am lawdriniaethau ar ei bengliniau.

“Nid un pen-glin ydi’r broblem, mae’r ddau yn ddrwg… hyd hynny mae’n rhaid i mi ymdopi gyda’r ddau, felly yn sicr roedd yn rhaid i mi wneud addasiadau yn y tŷ. Oherwydd roedd yr hyn oedd yn lle diogel unwaith, yr oeddwn yn ei gymryd yn ganiataol wedi mynd yn lle allai fod yn beryglus iawn.”

Er y gallwn yn aml helpu pobl fel Tony, sydd wedi cael canllawiau gan Gofal a Thrwsio, rydym yn gweld nifer gynyddol o bobl hŷn yn byw mewn tai anaddas na allwn eu helpu.

Yn aml nid yw pobl hŷn ar incwm isel yn gallu ariannu gwaith trwsio, ac ers y pandemig, mae materion brys heb eu datrys yn cynyddu.

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru wrth y rhaglen “mae bwlch mawr o ran arian a pholisi i bobl sydd angen help i daclo diffyg trwsio difrifol yn eu heiddo, felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno grant rhwyd diogelwch i helpu’r bobl hŷn hynny ag incwm isel nad oes ganddyn nhw unrhyw le arall i droi.”

“Os gwnawn ni atal damweiniau a salwch oherwydd tai gwael, yna bydd hynny yn arbed tua £100 miliwn i’r GIG mewn costau triniaethau yn unig bob blwyddyn.”

Nid yw Gofal a Thrwsio yn derbyn y dylai unrhyw berson hŷn:

  • Fyw mewn cartref sy’n beryglus neu nad yw’n addas i’w hanghenion
  • Marw ym misoedd y gaeaf oherwydd ei fod yn byw mewn cartref oer
  • Byw mewn cartref sy’n beryglus
  • Byw heb neu aros yn rhy hir am addasiadau angenrheidiol

Byddwn yn parhau i weithio tuag at sicrhau y bydd y bobl hŷn yng Nghymru i gyd yn byw mewn cartref cynnes, diogel a chyfleus trwy alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno grant rhwyd diogelwch ar gyfer gwaith trwsio brys.

Gallwch wylio adroddiad llawn y BBC yma.

Neu gwrandwch ar ein cyfweliadau ar radio’r BBC isod neu trwy glicio yma am y Saesneg ac yma ar gyfer y Gymraeg.

 

CYFWELIAD RADIO CYMRAEG:

CYFWELIAD RADIO SAESNEG:

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.