Mae Sandra Davies yn Weithiwr Achos Gofal a Thrwsio sy’n gweithio yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae’n ymweld â phobl hŷn sydd angen help gyda’u cartrefi i gynnal Gwiriadau Cartrefi Iach.

Mae Gofal a Thrwsio yn cynnal 14,000 Gwiriad Cartrefi Iach bob blwyddyn, ond beth ydyn nhw? Fe wnaethom ymuno â Sandra ar ymweliad â chleient i ganfod mwy.

Mae’n gynnar ar ddiwrnod twym ym mis Mehefin ac mae Sandra yn ymweld â Margaret, menyw 91 oed ym Mhort Talbot. Mae Margaret wedi byw yn ei chartref bach am 65 mlynedd. Mae’r adeilad yn un o dai pâr.

Mae merch Margaret yn ymweld pan mae Sandra yn cyrraedd, ac maent i gyd yn eistedd yn y lolfa ymysg lluniau Margaret o’i diweddar ŵr, plant ac wyrion.

Gofynnwyd i Sandra ymweld oherwydd i Margaret faglu ar step y drws cefn ac roedd yn ffodus i beidio anafu ei hunan. “Bydd yn rhaid i mi edrych ar step y drws cefn i weld beth fedrwn ei wneud”, esboniodd Sandra. “Fe fyddaf hefyd yn cynnal Gwiriad Cartrefi Iach fydd yn helpu i ganfod ffyrdd eraill y gallwn eich helpu a’ch stopio rhag baglu unrhyw le arall.” Mae Margaret ychydig yn ansicr am hyn ac nid yw eisiau bod yn unrhyw drafferth. “Y cyfan mae’n ei olygu yw y byddaf yn gofyn ychydig yn fwy o gwestiynau i chi”, meddai  Sandra, felly mae Margaret yn cytuno.

 

Sandra checking the bathroom for hazards

Ychydig o Gwestiynau

Mae cwestiynau cyntaf Sandra am iechyd, tebyg i: ydych chi wedi dod adre o’r ysbyty yn ddiweddar, a pha fath o foddion ydych chi’n eu cymryd ar hyn o bryd? Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn galluogi Sandra i ddeall sut mae Margaret ac os y gallai unrhyw gyflyrau iechyd effeithio ar ei diogelwch adre, tebyg i dementia neu arthritis.

Mae’r cwestiwn nesaf am syrthio. A yw Margaret wedi syrthio yn y 12 mis diwethaf? Os felly, beth ddigwyddodd. Bydd 50% o bobl dros 80 yn syrthio unwaith y flwyddyn, ac mae llawer o gwympiadau yn ddifrifol a gallent arwain at ymweliad ysbyty.

Yna gwestiwn am oerfel yn y cartref – a yw’n mynd yn rhy oer i chi ac a yw eich boeler yn gweithio’n iawn? Caiff hyn ei ddiystyru yn aml ond mae cartref oer yn gwaethygu cyflyrau iechyd a gall arwain at lwydni a lleithder yn y cartref. Mae Sandra hefyd yn gofyn os yw Margaret eisiau cael ei rhoi ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth – rhestr cwmnïau ynni o bobl y cynigiant help ychwanegol iddynt os oes toriad pŵer neu darfu ar wasanaethau.

Yn olaf mae Sandra eisiau gwybod os yw Margaret yn derbyn yr holl fudd-daliadau cywir. Mae’n cynnig gwirio os yw’n gymwys am Gredyd Pensiwn, ond mae Margaret yn dweud ei bod yn fodlon gyda’r hyn mae’n ei gael. Nid yw llawer o bobl hŷn yn cael pob budd-dal y mae ganddynt hawl iddynt. Gall Gweithwyr Achos Gofal a Thrwsio helpu i lenwi’r ffurflenni a chyflwyno’r ceisiadau ar gyfer cleientiaid, gan ei gwneud yn rhwydd a di-straen.

 

Sandra on the stairs looking at the carpet

Gwirio’r Cartref

Ail ran Gwiriad Cartref Iach yw edrych yn gyflym o amgylch y cartref.

Mae Sandra yn dechrau yn yr ystafell ymolchi, ac o fewn ychydig eiliadau mae’n gweld dau fan lle byddai canllawiau cydio yn ei gwneud yn fwy rhwydd a diogel i Margaret fynd o gwmpas. Gall tasgmon Gofal a Thrwsio osod y rhain mewn llai na 20 munud.

Yn nesaf, mae Sandra yn archwilio’r grisiau. Mae canllaw, ond mae Sandra yn nodi nad oes dim lle mae’r stepiau yn troi ar y gwaelod. Byddai canllaw hirach yn well. Nodir hefyd fod y carped yn llac, sy’n arbennig o beryglus ar y grisiau..

Mae pob Gwiriad Cartrefi Iach yn cynnwys prawf cyflym ar y Larymau Tân a Carbon Monocsid. Cynhelir gwiriad ac ymddengys nad yw un yn gweithio. Gall Gofal a Thrwsio drefnu gosod larymau carbon monocsid neu larymau tân am ddim os oes angen.

Yn olaf, ac yn bwysicaf oll i Margaret, caiff y mynediad i’r cartref ei wirio. Mae angen canllaw ar step y drws cefn a sylwir fod y step ar y drws blaen yn gul iawn gan olygu fod yn rhaid i chi droi eich troed i gamu arni. Mae Sandra yn dweud y gellir newid hyn i roi diogelwch a heddwch meddwl.

 

Assessing the front entry – is it safe?

Camau Nesaf

­­Gyda’r Gwiriad Cartrefi Iach wedi ei gwblhau, mae angen i Sandra drafod beth sy’n digwydd nesaf. Gyda chaniatâd Margaret, penderfynir y bydd tasgmon Gofal a Thrwsio yn dod i osod y canllawiau cydio, gwneud yn siŵr fod y carped ar y grisiau yn ddiogel ac asesu’r step flaen i weld beth fedrir ei wneud. Caiff y gwaith hwn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â’r awdurdod lleol.

Mae Margaret yn cytuno, ac mae Sandra’n ei sicrhau y gall newid ei meddwl am y gwiriad budd-daliadau ar unrhyw adeg.

Caiff ffurflen ei llofnodi a manylion cyswllt eu rhannu, gyda Sandra yn addo cadw mewn cysylltiad.

Mae’r newidiadau syml hyn yn golygu y gall Margaret edrych ymlaen at ei 66fed blwyddyn yn ei chartref sydd mor annwyl iddi, a llawer mwy i ddod.

 

Cysylltwch â’ch asiantaeth Gofal a thrwsio leol i ofyn am Wiriad Cartrefi Iach am ddim ar gyfer eich cartref. Cysylltu â ni yn awr.

The back door step needs a rail

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.