Y 12 mis diwethaf fu’r flwyddyn fwyaf llwyddiannus ers dechrau gwasanaeth Ymdopi’n Well.

Cafodd 2,757 o bobl hŷn help gan Ymdopi’n Well y llynedd. Roedd hyn yn cynnwys 2,150 o bobl gyda nam ar eu golwg neu eu clyw, 376 o bobl sy’n byw gyda dementia a 204 o bobl sydd wedi goroesi strôc.

Yn y flwyddyn ddiwethaf cafodd 2,471 o’r bobl a helpwyd Asesiad Cartref Iach. Mae’r asesiad wedi ein helpu i sicrhau fod pobl hŷn gyda cholled synhwyraidd yn byw mewn cartrefi cynnes, diogel a chyfleus  a rydym yn eu helpu i aros mor annibynnol ag sydd modd yn eu cartrefi eu hunain.

Yn dilyn yr Asesiadau Cartrefi Iach, fe wnaethom werth £1,227,593 o welliannau cartref i gefnogi byw annibynnol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cawsom adborth gan 789 cleient a byddai 87% ohonynt yn argymell gwasanaeth Ymdopi’n Well.

 

Mewn Undod mae Nerth – Gweithio mewn Partneriaeth

Un o gryfderau’r gwasanaeth Ymdopi’n Well yw pump o elusennau mawr yng Nghymru yn dod ynghyd a chyfuno eu cryfderau unigryw. Mae’r gwasanaeth ar y cyd wedi galluogi gweithwyr achos Ymdopi’n Well i gael dealltwriaeth wych o’r cymorth ychwanegol y gall ein partneriaid ei gynnig.

Ymunodd Cymdeithas Alzheimer a’r Gymdeithas Strôc gyda phartneriaeth Ymdopi’n Well yn 2020 ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fe wnaethom helpu 376 o bobl sy’n byw gyda dementia a 204 o bobl sydd wedi goroesi strôc. Mae ein partneriaeth Ymdopi’n Well yn golygu fod pob partner yn dod â gwahanol faes arbenigedd ynghyd i roi’r cymorth arbenigol o amgylch y cleient unigol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fe wnaethom atgyfeirio 3,480 o gleientiaid i dderbyn cymorth arbenigol ychwanegol gan ein partneriaid ac ystod eang o fudiadau ar draws Cymru.

 

Pwysau: Ôl-groniad Covid 19 a’r Argyfwng Costau Byw

Oherwydd pandemig Covid-19 mae gwasanaethau statudol yn dal i ddelio gydag ôl-groniad enfawr o waith, gan olygu y bu mwy o alw nag erioed ar Ymdopi’n Well. Er hyn, mae Asiantaethau Gofal a Thrwsio ar draws Cymru wedi dangos proffesiynoldeb rhagorol wrth gyflwyno gwasanaeth Ymdopi’n Well.

Gyda’r cynnydd mewn galw, cawsom 581 atgyfeiriad eleni gan Iechyd, wrth i Ymdopi’n Well barhau i helpu trin pwysau ychwanegol ar wasanaethau statudol ac aciwt.

Mae llawer o bobl hŷn yng Nghymru yn cael trafferthion ariannol gyda’r argyfwng costau byw cynyddol ac yn ei chael yn anodd i gynnal a chadw eu cartrefi. Yn y flwyddyn ddiwethaf, medrodd gweithwyr achos Ymdopi’n Well gael mynediad i werth £58,734 o gyllid dyngarol i helpu pobl hŷn sy’n cael trafferthion ariannol i gynnal a chadw a gwella eu cartrefi. Cafodd pob cleient yr ymwelwn â nhw gynnig i asesu eu hawl i fudd-daliadau lles ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fe wnaethom gefnogi 645 o’n cleientiaid i gynyddu eu hincwm gyda gwerth ychwanegol o £2,081,096.

 

Technoleg yn Newid Bywydau

Mae holl gleientiaid Ymdopi’n Well yn derbyn cynnig i drafod sut y gall technoleg fod o fudd iddynt. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom helpu 1,196 cleient gyda thechnoleg mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Er enghraifft fe wnaethom ddangos sut y gall dyfeisiau Alexa helpu pobl i gadw mewn cysylltiad gyda pherthnasau a chyfeillion, dysgu sgil newydd, gwrando ar gerddoriaeth neu ddefnyddio eu llais i reoli goleuadau.

Mae ein partneriaid RNIB hefyd wedi cyflwyno amrywiaeth o hyfforddiant i weithwyr achos Ymdopi’n Well i gynnwys yr opsiynau hygyrchedd iPad sydd ar gael i bobl gyda nam synhwyraidd. Mae hyn wedi galluogi ein gweithwyr achos i barhau i helpu pobl gyda nam ar eu golwg neu glyw i ddefnyddio technoleg a chadw mewn cysylltiad.

 

Colli Clyw ac Iaith Arwyddion Prydain

Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r RNID ac mae gennym gysylltiadau da gyda’u gwasanaeth Byw yn Dda. Mae’r cydweithio agos hwn wedi ein galluogi i ddatblygu ein dealltwriaeth ac arbenigedd o golli clyw. Gwelsom gynnydd yn y flwyddyn ddiwethaf yn y nifer o systemau cylch clywed a osodwyd gan Asiantaethau Gofal a Thrwsio ar gyfer cleientiaid i helpu llacio pwysau ar y gwasanaethau statudol.

Rydym hefyd yn parhau i weithio’n agos gyda Chymdeithas Brydeinig y Byddar (BDA) i sicrhau fod ein gwasanaeth yn hygyrch i bobl Fyddar ledled Cymru sydd â Iaith Arwyddion Prydain yn iaith gyntaf iddynt.

Dros y flwyddyn ddiwethaf maent wedi ein cefnogi gyda phobl Fyddar ar draws Cymru drwy gefnogi ein gweithwyr achos i fynychu clybiau i’r Byddar i siarad gyda phobl Byddar am Ymdopi’n Well gyda chymorth dehonglydd BSL. Mae cefnogaeth y BDA yn golygu ein bod yn gweld cynnydd yn faint o ddehongli BSL a ddefnyddiwn i gefnogi cleientiaid pan mae gweithiwr achos a/neu gontractor yn ymweld i wneud gwaith.

 

Arddangos ein Harbenigedd

Rydym wedi cynhyrchu dwy ffilm fer i ddangos buddion anhygoel y bartneriaeth Ymdopi’n Well ac arbenigedd rhagorol ein gweithwyr achos. Mae ffocws un ar bartneriaeth a nodweddion pob un o’r pump elusen, ac un arall yn rhoi sylw i’n darpariaeth gofal dementia.

Mae Ymdopi’n Well yn parhau i ddatblygu ei arbenigedd fel gwasanaeth i gefnogi pobl hŷn gyda nam synhwyraidd i fyw’n annibynnol mewn cartrefi diogel, cynnes a chyfleus. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb waith caled a phenderfyniad pawb sy’n gysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys ein partneriaid, Asiantaethau Gofal a Thrwsio, gweithwyr achos Ymdopi’n Well ac ystod eang o unigolion a sefydliadau ar draws y trydydd sector a’r sector statudol.

 

 

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol os ydych angen help gan wasanaeth Ymdopi’n Well. I siarad gyda ni am y prosiect a’i effaith yng Nghymru, anfonwch e-bost at Stephen Thomas, Cydlynydd Cenedlaethol Ymdopi’n Well: Stephen.thomas@careandrepair.org.uk

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.