Posted: 16.09.2022
Author: jack
Mae datgarboneiddio yn golygu naill ai gynyddu gostyngiad carbon deuocsid (CO2) neu ei ddileu’n llwyr o’n hatmosffer. Mae ‘datgarboneiddio tai’ yn golygu atal cymaint o CO2 ag syn bosibl rhag mynd i’r atmosffer drwy dai gwael. Mae mesurau datgarboneiddio i gartrefi yn cynnwys dadansoddi defnydd ynni cartref, uwchraddio gwresogi a phaneli solar.
Cafodd y Rhaglen Ôl-osod ar gyfer Optimeiddio ei chreu gan y Bumed Senedd gyda’r nod o gymryd dull Tŷ Cyfan at ddatgarboneiddio cartrefi presennol ledled Cymru. Mae hyn yn golygu edrych ar y deunyddiau adeiladu, daearyddiaeth y cartref a’r bobl yn y cartref, a sicrhau fod y cynlluniau a awgrymir i wella’r cartref hefyd o fudd i’r teulu a’r lleoliad. Mae’r cynllun yn dal i fod ar ei gam dysgu ac addasu – ar hyn o bryd, mae’r rhaglen yn rhedeg mewn tri cham, gyda cham 2 rhwng 2021-2022, nad yw’n cynnwys tai perchen-feddianwyr. Rydym wedi gofyn am eglurhad ar gynlluniau ar gyfer cam 3 fel y gallwn fod yn y sefyllfa orau i gynorthwyo gydag ymestyn y rhaglen i’n cleientiaid.
Mae Gofal a Thrwsio yn credu fod datgarboneiddio’r stoc tai presennol yn fanteisiol i’r cyhoedd a hinsawdd Cymru. Os caiff ei hymestyn yn gywir, mae’n strategaeth a all sicrhau fod y cartrefi sydd yn y cyflwr gwaethaf ar hyn o bryd ac sydd phobl fregus neu rai yn y ddyled tanwydd fwyaf difrifol yn byw ynddynt, yn cael y cymorth hirdymor, Tŷ Cyfan maent ei angen.
Ailgyflwyno Arolwg Cyflwr Tai Cymru
Roedd Arolwg Cyflwr Tai Cymru yn arolwg blynyddol ac adroddiad dilynol ar gyflwr cartrefi ar draws Cymru. Roedd yn edrych ar lefelau y tai mewn cyflwr gwael, peryglon ac ansawdd cyffredinol y cartref ac yn galluogi Llywodraeth Cymru, cymdeithasau tai a landlordiaid (cymdeithasol a phreifat) i wneud yr atgyweiriadau ac addasiadau angenrheidiol i sicrhau fod eu cartrefi yn ddiogel ac yn ffit i fyw ynddynt. Cafodd yr Arolwg ei ddileu gan Lywodraeth Cymru yn 2018 ac nid oes dim wedi dod yn ei le. Mae hyn yn golygu fod yr holl data sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyflwr cyfredol tai ar draws Cymru o leiaf bedair blynedd oed, ac nid oes gennym ddarlun cywir na chyfredol o’r tirlun hyd yma.
Gweithredu dull Tŷ Cyfan aml-fesur at ôl-osod
Mae Tŷ Cyfan a Ffabrig yn Gyntaf yn dermau cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio faint o waith ôl-osod a datgarboneiddio a wneir ar dŷ. Mae Ffabrig yn Gyntaf yn edrych yn llwyr ar y strwythur a’r adeilad ei hun, tra bod Tŷ Cyfan yn edrych nid yn unig ar y cartref, ond hefyd y ffordd y defnyddir y cartref a phwy sy’n byw ynddo. Mae hyn yn caniatáu golwg mwy manwl ar y cartref ac awgrymu argymhellion mwy manwl ar gyfer cynlluniau ôl-osod.
Creu a chyflwyno ‘TrustMark’/sefydliad safonau sy’n bodoli yng Nghymru yn un swydd i reoleiddio prosiectau ôl-osod a rhoi sicrwydd i gleientiaid
Er mwyn i berchnogion cartrefi a pherchen-feddianwyr fod yn hyderus yn y gwaith ôl-osod a sicrhau fod gan y contractwyr a chwmnïau a ddefnyddiant enw da, argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn datblygu sefydliad safonau ar wahân i oruchwylio a rheoleiddio gwaith ôl-osod ar draws y wlad. Bydd llawer o bobl hŷn a phobl fwy bregus a all fod yn chwilio am ffyrdd i insiwleiddio a gofalu am eu cartref fod yn edrych am gontractwyr i wneud gwaith ôl-osod. Gallai hwn fod yn faes cynyddol ar gyfer sgamwyr a busnesau annibynadwy i fanteisio arno. I ddiogelu defnyddwyr bregus, cynigiwn greu sefydliad safonau a bod ganddo strwythur a chyfrifoldeb tebyg i TrustMark.
Llywodraeth Cymru i gyllido asesiad ôl-osod ffurfiol dechreuol ar gyfer landlordiaid sector preifat a pherchen feddianwyr, yn unol ag arweiniad PAS2035
Sylweddolwn y gall ôl-osod fod yn ddrud ac yn aml y gall fod costau sylweddol i ddim ond cynnal yr asesiad dechreuol. Mae’r baich ariannol hwn yn golygu y gallai’r rhai a fedrai fod yn gymwys am fesurau datgarboneiddio ddewis peidio eu cael. Mae Gofal a Thrwsio yn credu y bydd cyflwyno cyllid ar gyfer cynnal yr aesiad dechreuol yn rhad ac am ddim yn annog pobl i gael asesiad dechreuol ar eu cartrefi.