Posted: 27.11.2022
Author: jack
Adroddiad Newydd: Ysbyty i Gartref Iachach
Mae Gofal a Thrwsio wedi cyhoeddi adroddiad gwerthuso newydd yn tynnu sylw at lwyddiannau prosiect Ysbyty i Gartref Iachach dros y tair blynedd ddiwethaf.
Mae Ysbyty i Gartref Iachach ar gael mewn 17 ysbyty ar draws Cymru ac mae’n gweithio i sicrhau y gall cleifion gael eu rhyddhau’n gyflym a dychwelyd i gartref diogel, cynnes a chyfleus.
Dengys yr adroddiad newydd fod y prosiect wedi arbed dros 62,000 o ddyddiau gwely i GIG Cymru dros y tair blynedd ddiwethaf. Dywedir fod yr ystadegyn anhygoel hwn oherwydd cyflymder a nifer yr addasiadau y gall y gwasanaeth eu cwblhau, gan olygu fod cleifion a atgyfeirir at y prosiect yn aros yn yr ysbyty am chwe diwrnod yn llai ar gyfartaledd. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi sylw i rôl y gwasanaeth mewn gostwng nifer y cleifion sy’n gorfod mynd yn ôl i ysbyty. Mae gan gleifion a gafodd eu helpu gan y prosiect 5.7% o gyfle i byddant yn gorfod dychwelyd i ysbyty o gymharu gyda chyfartaledd bwrdd iechyd o tua 12-15%.
Dywedodd Faye Patton, Rheolwr Prosiect Ysbyty i Gartref Iachach “Mae’r adroddiad newydd hwn yn dangos rôl hanfodol y prosiect mewn ysbytai yng Nghymru. Mae’n wych y cafodd dros 10,000 o gleifion eu hatgyfeirio atom yn nhair blynedd cyntaf bod yn brosiect i Gymru gyfan ac mae’n dangos pwysigrwydd cydweithio a phartneriaeth yn y sector iechyd a pham fod yn rhaid i wasanaethau fel hyn barhau i dderbyn cyllid.”
Mae gweithwyr achos Ysbyty i Gartref Iachach yn gweithio’n uniongyrchol gyda staff ysbyty i ddynodi cleifion hŷn sydd â phroblemau tai a all ohirio eu dychweliad adre. Mae timau Gofal a Thrwsio wedyn yn gweithio gyda chleifion a’u teuluoedd i gynnal y gwelliannau cartref sydd eu hangen i alluogi cleifion i gael eu rhyddhau’n gyflym ac yn ddiogel.
Mae Eleri Evans, Pennaeth Nyrsio Ysbyty Gwynedd, yn gweld manteision clir y prosiect:
“Yr hyn rydyn ni eisiau yw ychydig bach o adnoddau ychwanegol i gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain, a gallai hynny fod yn rhywbeth mor syml â chanllaw. Mae mor syml â hynny. Yn hanesyddol, byddai’n rhaid i ni wneud d atgyfeiriad gwaith cymdeithasol. Fe fyddai’n rhaid i ni aros i weithiwr cymdeithasol gael ei ddyrannu. Felly o’n safbwynt ni, mae Ysbyty i Gartref Iachach yn werthfawr tu hwnt.”
Dywedodd Tracy Daniel, Arweinydd Tîm Orthopaedeg ysbyty Tywysoges Cymru:
“Mae safon rhyddhau yn llawer gwell ers i ni gael Gofal a Thrwsio oherwydd fod llawer mwy o wiriadau nag y byddem wedi eu gwneud a gweithredu arnynt o’r blaen. Os oes gennych bobl gyda phethau fel problemau ar y frest sy’n byw mewn cartref llaith, gall hynny gael ei newid nawr, gan olygu nad ydynt yn gorfod mynd yn ôl i ysbyty yn y dyfodol oherwydd cyflwr y tŷ. Felly mae’n sgil-effaith ataliol”.
Mae’r gwasanaeth yn gwella llif cleifion ac yn gostwng nifer yr achosion sy’n gorfod mynd yn ôl i ysbyty. Amcangyfrifir fod hynny’n arbed 25,000 o ddyddiau gwely bob blwyddyn i’r GIG yng Nghymru.