{"id":2762,"date":"2025-11-07T08:55:57","date_gmt":"2025-11-07T08:55:57","guid":{"rendered":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/"},"modified":"2025-11-10T08:56:04","modified_gmt":"2025-11-10T08:56:04","slug":"qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/","title":{"rendered":"Qualia Law: Diogelu Ariannol ar gyfer Pobl Fregus H\u0177n yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<h3>Yn yr erthygl hon, mae Tom Evans yn ysgrifennu am sut mae Qualia Law yn newid bywydau pobl h\u0177n yng Nghymru gyda chyngor cyfreithiol a diogelu ariannol nid-er-elw.<\/h3>\n<p>Roedd Alison, menyw yn ei 80au sy\u2019n byw \u00e2 dementia, yn byw mewn cartref preswyl pan ddaeth dan ofal Qualia Law. Nid ei dewis hi oedd hynny, ond roedd rhwystrau ariannol ac ymarferol yn ei gwneud yn amhosibl iddi ddychwelyd i\u2019w chartref ei hun. Roedd angen gwaith ar frys i\u2019w chartref, roedd ei thaliadau incwm wedi eu hatal dros dro ac nid oedd ganddi bellach y gallu i wneud penderfyniadau ariannol cymhleth. Heb ymyriad, roedd yn ymddangos yn anochel y byddai\u2019n rhaid iddi aros mewn gofal preswyl hirdymor.<\/p>\n<p>Cafodd cyfreithiwr Qualia Law ei benodi gan y Llys Gwarchod fel Dirprwy i Alison ar gyfer Materion Eiddo ac Ariannol. Fel Cwmni Budd Cymunedol nid-er-elw yn seiliedig yng Nghaerdydd, cenhadaeth Qualia Law yw gwarchod cyllid a llesiant oedolion bregus gan eu galluogi i fyw yn yr amgylchedd a ddewisant lle bynnag mae hynny\u2019n bosibl. Rydym yn cyfuno sgiliau cyfreithwyr arbenigol gyda dull gweithredu a gaiff ei yrru gan werthoedd ac sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn \u2013 a chaiff unrhyw warged a gynhyrchwn ei ailfuddsoddi i gefnogi oedolion bregus ledled Cymru.<\/p>\n<p><strong>Deall nodau ac anghenion Alison<\/strong><\/p>\n<p>Ein cam cyntaf oedd cynnal asesiad manwl o sefyllfa ariannol Alison, cyflwr ei chartref a\u2019i gofynion gofal hirdymor. Fe wnaethom ymgynghori \u00e2 chontractwyr, adolygu hawl i fudd-daliadau ac ystyried pob agwedd o\u2019i hamgylchiadau. Yn hollbwysig, fe wnaethom wrando ar yr hyn oedd bwysicaf iddi: ei dymuniad dwfn i ddychwelyd i\u2019r cartref roedd yn ei garu ac i barhau yn rhan o\u2019i chymuned leol.<\/p>\n<p>Fe wnaethom gyflwyno pecyn o gamau gweithredu wedi eu cydlynu i\u2019w gwneud yn ddiogel ac yn gynaliadwy i Alison ddychwelyd i\u2019w chartref:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwaith addasu a thrwsio i\u2019w chartref: Fe wnaethom drefnu i foeler nwy anniogel gael ei dynnu a chomisiynu gwaith trwsio hanfodol, gan sicrhau fod ei chartref yn gynnes, diogel ac addas.<\/li>\n<li>Rheoli ariannol: Fel ei dirprwy proffesiynol, fe wnaethom sefydlogi ei chyllid, gosod cyllidebau a blaenoriaethu biliau hanfodol, gan roi sylfaen ariannol glir a chadarn iddi.<\/li>\n<li>Uchafu incwm: Drwy wneud cais am y budd-daliadau yr oedd ganddi hawl iddynt, fe wnaethom gynyddu eu hincwm i fod yn ddigon ar gyfer costau gofal a byw.<\/li>\n<li>Gostwng rhwymedigaethau: Cawsom eithriad rhag y dreth gyngor, gan ostwng ei gwariant yn sylweddol a galluogi defnydd mwy effeithlon o\u2019i hadnoddau.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Canlyniad cadarnhaol<\/strong><\/p>\n<p>Gallodd Alison symud yn \u00f4l yn ddiogel i\u2019w chartref ei hun o fewn ychydig fisoedd. Fe wnaeth adennill ei hannibyniaeth a\u2019i hurddas, a gallai yn awr dderbyn ei gofal parhaus mewn amgylchiadau cyfarwydd. Drwy ddatrys rhwystrau ariannol a hefyd rwystrau ymarferol, fe wnaeth Alison osgoi bod mewn gofal preswyl hirdymor diangen \u2013 gan wella ei hansawdd bywyd a sicrhau defnydd doeth o adnoddau cyhoeddus.<\/p>\n<p>Mae achos Alison yn dangos sut y gall dirprwyaeth ragweithiol drawsnewid bywydau. Dengys hefyd na ddylai galluedd neu anawsterau dros dro unigolyn i ymdrin \u00e2\u2019u materion ariannol fod yn rhwystr i fyw\u2019n annibynnol pan fo\u2019r cymorth cywir ar gael.<\/p>\n<p><strong>Cymorth wedi ei deilwra ar gyfer gwahanol anghenion<\/strong><\/p>\n<p>Mae Qualia Law CIC yn cynnig ystod o wasanaeth:<\/p>\n<ul>\n<li>Dirprwyaeth Broffesiynol (Llys Gwarchod): Ar gyfer unigolion heb allu, rydym yn gweithredu fel dirprwy a benodwyd ganddynt, yng ngofal eiddo, cyllid a rhwymedigaethau er eu budd gorau.<\/li>\n<li>Atwrneiaeth Broffesiynol (Atwrneiaeth Arhosol): Ar gyfer y rhai sydd \u00e2 gallu i wneud Atwrneiaeth Arhosol ond sydd angen help i ymdrin ag agweddau neilltuol o\u2019u cyllid \u2013 efallai oherwydd afiechyd, asedau cymhleth neu amgylchiadau teuluol \u2013 gallwn weithredu fel eu hatwrnai proffesiynol.<\/li>\n<li>Cyngor ac Arweiniad: Rydym yn cefnogi teuluoedd, atwrneiaid a gweithwyr proffesiynol eraill. Drwy ganolbwyntio ar yr unigolyn, ac nid dim ond y gwaith papur, rydym yn creu datrysiadau sy\u2019n parchu urddas ac annibyniaeth.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Pam fod ein gwaith yn bwysig<\/strong><\/p>\n<p>Ledled Cymru mae llawer o bobl yn wynebu newidiadau cyflym mewn galluedd neu amgylchiadau: gall str\u00f4c, salwch ymledol neu golli cymar olygu anrhefn mewn cyllid a threfniadau tai. Heb gymorth cyfreithiol medrus, mae\u2019r unigolion hyn mewn risg o gael eu rhoi yn ddiangen mewn cartrefi gofal, camfanteisio ariannol arnynt neu fod mewn dyled heb ei rheoli. Drwy gamu i mewn fel dirprwyon neu atwrneiaid, mae Qualia Law CIC yn rhoi sefydlogrwydd ac yn sicrhau y caiff penderfyniadau eu gwneud yn gyfreithiol, yn dryloyw a gyda thosturi.<\/p>\n<p><strong>Cael cymorth gan Qualia Law<\/strong><\/p>\n<p>Gall unrhyw un \u2013 p\u2019un ai yn aelod teulu, cyfaill, awdurdod lleol neu gorff trydydd sector \u2013 gysylltu \u00e2 ni yn uniongyrchol i gael sgwrs gyfrinachol na fydd yn rhwymo. Byddwn yn gwrando, esbonio opsiynau yn glir a\u2019ch llywio drwy\u2019r camau nesaf.<\/p>\n<p>Gwefan: <a href=\"http:\/\/www.qualia-law.org\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">www.qualia-law.org<\/a><br \/>\nFf\u00f4n: 0333 305 3057<br \/>\nE-bost: <a href=\"mailto:info@qualia-law.org\">info@qualia-law.org<\/a><\/p>\n<p>Mae Qualia Law CIC yn falch i helpu pobl ledled Cymru i aros lle maent yn perthyn: yn eu cartrefi eu hunain, yn rheoli eu bywydau eu hunain, ac yn cael eu cefnogi gan gymuned ofalgar.<\/p>\n<p>Mae Qualia Law CIC yn Aelod Masnachol Care &amp; Repair Cymru. Gallwch ddarllen mwy a gweld ein holl <a href=\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/become-a-commercial-member\/\">Aelodau Masnachol<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn yr erthygl hon, mae Tom Evans yn ysgrifennu am sut mae Qualia Law yn newid bywydau pobl h\u0177n yng Nghymru gyda chyngor cyfreithiol a diogelu ariannol nid-er-elw.<\/p>\n","protected":false},"author":43,"featured_media":2763,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[28],"tags":[],"class_list":["post-2762","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-guest-post"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Qualia Law: Diogelu Ariannol ar gyfer Pobl Fregus H\u0177n yng Nghymru | Gofal a Thrwsio<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Qualia Law: Diogelu Ariannol ar gyfer Pobl Fregus H\u0177n yng Nghymru | Gofal a Thrwsio\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn yr erthygl hon, mae Tom Evans yn ysgrifennu am sut mae Qualia Law yn newid bywydau pobl h\u0177n yng Nghymru gyda chyngor cyfreithiol a diogelu ariannol nid-er-elw.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gofal a Thrwsio\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/careandrepaircymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2025-11-07T08:55:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-10T08:56:04+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/11\/Qualia-Law.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"900\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"sarah\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@CRCymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@CRCymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"sarah\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Estimated reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/\"},\"author\":{\"name\":\"sarah\",\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/277e2ee0ef535e34f6e693c35df3c3b8\"},\"headline\":\"Qualia Law: Diogelu Ariannol ar gyfer Pobl Fregus H\u0177n yng Nghymru\",\"datePublished\":\"2025-11-07T08:55:57+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-10T08:56:04+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/\"},\"wordCount\":858,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/11\/Qualia-Law.jpg\",\"articleSection\":[\"Guest Post\"],\"inLanguage\":\"en-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/\",\"url\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/\",\"name\":\"Qualia Law: Diogelu Ariannol ar gyfer Pobl Fregus H\u0177n yng Nghymru | Gofal a Thrwsio\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/11\/Qualia-Law.jpg\",\"datePublished\":\"2025-11-07T08:55:57+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-10T08:56:04+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/11\/Qualia-Law.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/11\/Qualia-Law.jpg\",\"width\":900,\"height\":600},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Qualia Law: Diogelu Ariannol ar gyfer Pobl Fregus H\u0177n yng Nghymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/\",\"name\":\"Gofal a Thrwsio\",\"description\":\"Gwella Cartrefi, Newid Bywydau\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#organization\",\"name\":\"Gofal a Thrwsio Cymru\",\"url\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/01\/cropped-Care-Repair-Favicon-2.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/01\/cropped-Care-Repair-Favicon-2.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Gofal a Thrwsio Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/careandrepaircymru\",\"https:\/\/x.com\/CRCymru\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/277e2ee0ef535e34f6e693c35df3c3b8\",\"name\":\"sarah\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/0df958b2900d9e9bb8d39f30a6ee958871cf0e29d27084f5fac10c95ecd1a2e7?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/0df958b2900d9e9bb8d39f30a6ee958871cf0e29d27084f5fac10c95ecd1a2e7?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/0df958b2900d9e9bb8d39f30a6ee958871cf0e29d27084f5fac10c95ecd1a2e7?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"sarah\"},\"url\":\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/author\/sarah\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Qualia Law: Diogelu Ariannol ar gyfer Pobl Fregus H\u0177n yng Nghymru | Gofal a Thrwsio","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/","og_locale":"en_GB","og_type":"article","og_title":"Qualia Law: Diogelu Ariannol ar gyfer Pobl Fregus H\u0177n yng Nghymru | Gofal a Thrwsio","og_description":"Yn yr erthygl hon, mae Tom Evans yn ysgrifennu am sut mae Qualia Law yn newid bywydau pobl h\u0177n yng Nghymru gyda chyngor cyfreithiol a diogelu ariannol nid-er-elw.","og_url":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/","og_site_name":"Gofal a Thrwsio","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/careandrepaircymru","article_published_time":"2025-11-07T08:55:57+00:00","article_modified_time":"2025-11-10T08:56:04+00:00","og_image":[{"width":900,"height":600,"url":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/11\/Qualia-Law.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"sarah","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@CRCymru","twitter_site":"@CRCymru","twitter_misc":{"Written by":"sarah","Estimated reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/"},"author":{"name":"sarah","@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/277e2ee0ef535e34f6e693c35df3c3b8"},"headline":"Qualia Law: Diogelu Ariannol ar gyfer Pobl Fregus H\u0177n yng Nghymru","datePublished":"2025-11-07T08:55:57+00:00","dateModified":"2025-11-10T08:56:04+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/"},"wordCount":858,"publisher":{"@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/11\/Qualia-Law.jpg","articleSection":["Guest Post"],"inLanguage":"en-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/","url":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/","name":"Qualia Law: Diogelu Ariannol ar gyfer Pobl Fregus H\u0177n yng Nghymru | Gofal a Thrwsio","isPartOf":{"@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/11\/Qualia-Law.jpg","datePublished":"2025-11-07T08:55:57+00:00","dateModified":"2025-11-10T08:56:04+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#primaryimage","url":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/11\/Qualia-Law.jpg","contentUrl":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/11\/Qualia-Law.jpg","width":900,"height":600},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/qualia-law-financial-safeguarding-for-older-vulnerable-people-in-wales\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Qualia Law: Diogelu Ariannol ar gyfer Pobl Fregus H\u0177n yng Nghymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/","name":"Gofal a Thrwsio","description":"Gwella Cartrefi, Newid Bywydau","publisher":{"@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#organization","name":"Gofal a Thrwsio Cymru","url":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/01\/cropped-Care-Repair-Favicon-2.png","contentUrl":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/01\/cropped-Care-Repair-Favicon-2.png","width":512,"height":512,"caption":"Gofal a Thrwsio Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/careandrepaircymru","https:\/\/x.com\/CRCymru"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/277e2ee0ef535e34f6e693c35df3c3b8","name":"sarah","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/0df958b2900d9e9bb8d39f30a6ee958871cf0e29d27084f5fac10c95ecd1a2e7?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/0df958b2900d9e9bb8d39f30a6ee958871cf0e29d27084f5fac10c95ecd1a2e7?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/0df958b2900d9e9bb8d39f30a6ee958871cf0e29d27084f5fac10c95ecd1a2e7?s=96&d=mm&r=g","caption":"sarah"},"url":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/author\/sarah\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2762","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/43"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2762"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2762\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2767,"href":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2762\/revisions\/2767"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2763"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2762"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2762"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2762"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}