Cyflwyniad

Yn 2025/26, fe wnaeth digwyddiadau byd-eang barhau i ysgwyd y farchnad, gyda phrisiau ynni a chwyddiant uchel, a chynyddu pwysau costau byw ar gyfer ein buddiolwyr. Fel canlyniad mae’r galw am ein gwasanaethau wedi parhau i gynyddu, gydag allbynnau a chanlyniadau Gofal a Thrwsio yn uwch nag erioed. Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom gefnogi tua 45,000 o bobl hŷn i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Gallwch ddarllen am lawer o lwyddiannau a chanlyniadau’r flwyddyn ar y dudalen hon neu yn yr Adroddiad Effaith llawn – cliciwch y botwm gwyrdd isod i’w weld.

Fel Cadeirydd a Phrif Weithredwr, hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r llu o sefydliadau ac unigolion a gyfrannodd at ein llwyddiant yn 2025/26. Mae hyn yn cynnwys Asiantaethau Gofal a Thrwsio, Llywodraeth Cymru, Wales & West Utilities, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, partneriaid trydydd sector a’n holl gyllidwyr.

Chris Jones, Prif Weithredwr, Care & Repair Cymru
Andrew Vye, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

68,374

o wasanaethau unigol wedi’u cyflenwi i gefnogi pobl hŷn

72,764

o swyddi wedi eu cwblhau

£17.9m

o fudd-daliadau ar gyfer pobl hŷn nad oedd yn eu hawlio.

£24.4m

o waith trwsio a gwella tai

27,201

o swyddi Rhaglen Addasiadau Brys wedi eu cwblhau

21,201

Gwiriad Cartrefi Iach wedi eu cwblhau

Darllenwch yr Adroddiad Effaith

ASTUDIAETH ACHOS – STORI DAVID

Ymddeolodd David yn gynnar yn 2015 ac roedd yn edrych ymlaen at fwynhau bywyd gyda Margaret, prynu tŷ a theithio ond yn lle hynny fe wnaeth ei glyw waethygu’n gyflym ac effeithiodd hynny yn fawr iawn ar ei ansawdd bywyd.

Darllenwch nawr

Ein Adroddiadau yn 2025-26

Staff, Ein Hased Orau

Mae adroddiad newydd gan Care & Repair Cymru yn cynnig cipolwg prin ar waith beunyddiol sy’n helpu miloedd o bobl hŷn a bregus i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Yn seiliedig ar 52 cyfweliad manwl gyda staff o bob rhan o Gymru – yn cynnwys gweithwyr achos, gweinyddwyr, tasgmyn a swyddogion technoleg – mae’r adroddiad yn adlewyrchu calon ac enaid gwaith y sefydliad. Mae’n dangos sut mae ymddiriedaeth, tosturi a gwaith tîm yn sylfaen i bopeth a wnaiff Gofal a Thrwsio.

Maniffesto Etholiad y Senedd

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu Grant Rhwyd Ddiogelwch a gyflwynid gan Gofal a Thrwsio i unioni achosion o gartrefi mewn cyflwr gwael a pheryglus. Mae bwlch sylweddol mewn polisi a chyllid ar gyfer gwaith trwsio difrifol a brys i gartrefi yng Nghymru. Bob dydd, mae Gofal a Thrwsio yn gweld pobl hŷn yn y sector perchen-feddianwyr na all fforddio gwaith trwsio a lle nad oes unrhyw datrysiadau cyllid ar gael. Mae hyn yn gadael pobl hŷn yn byw mewn tai gwael gydag effaith niweidiol sylweddol ar eu hiechyd, llesiant a’u gallu i fyw yn ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Diolchiadau

 

Partneriaid

Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i bob un o’n partneriaid. Rydych wedi ein galluogi i gefnogi mwy o bobl hŷn yng Nghymru ac i eirioli ar ran pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi mewn cyflwr gwael.

 

Aelodau Masnachol

Diolch i’n Aelodau Masnachol sydd wedi cydweithio â ni drwy gydol y flwyddyn a dod â phrosiectau mwy arloesol i’r sector i gefnogi mwy o bobl.

 

Ein Tîm

Rydym mor ddiolchgar i dîm gwych Gofal a Thrwsio, sydd wedi gweithio mor galed yn y 12 mis diwethaf.

 

Ein Ymddiriedolwyr

Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi helpu i gyfeirio Care & Repair Cymru eleni, a rydym yn ddiolchgar am eu harweiniad parhaus.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.